Hyd ag y gwn i, nid campfa yw 'multi gym' ond teclyn ymarfer corff y gellir ei ddefnyddio mewn campfa neu gartref. Mae modd defnyddio'r peirant i ymarfer sawl rhan o'r corff, fel mae'r enw 'multi-gym' yn awgrymu.
 
Dyma i chi enghreifftiau o'r math hwn o beirant:
 
http://www.argos.co.uk/static/Browse/ID72/14419314/c_1/1%7Ccategory_root%7CSports+and+leisure%7C14419152/c_2/2%7C14419152%7CHome+gym+equipment%7C14419293/c_3/3%7Ccat_14419293%7CMulti+gyms%7C14419314.htm
 
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Ann Corkett
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Tuesday, November 23, 2010 11:03 PM
Subject: multi-gym area

Mae’n debyg mai’r cwestiwn cyntaf yw beth *yw* “multi-gym.

 

Gwelaf un achos o “campfa amlbwrpas” ac un o ”campfa aml-ddefnydd” ar Google, ond ‘rwy’n amau eu bod naill ai’n rhywbeth arall, neu’n ffrwyth cyfieithu mewn anwybodaeth. Mae dwy achos o “campfa aml-offer” sy’n swnio’n agosach at fy nealltwriaeth innau o beth ydyw – yntau a fyddai “campfa “aml-offeryn” yn well?

 

Ac wedyn, sut fyddai “multi-gym area (mewn adeilad pwll nofio) yn wahanol i multi-gym?

 

A all unrhyw un fy ngoleuo i?

 

Diolch,

 

Ann