Helo Sian, Ar wefan Cyngor Sir Powys welais i - Y Begwyn Mae’r Teithiau i’ch denu, sydd wedi’u trefnu gan Dîm Gwasanaethau Cefn Gwlad Cyngor Sir Powys, yn gyfres o deithiau cerdded o amgylch y sir. A bydd y daith nesaf yn cael ei chynnal ar ddydd Sul 5 Gorffennaf ger Castell-paen. Bydd ‘O Amgylch y Begwyn’ yn daith hamddenol dros y Begwyn, tir comin sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae’r daith hwylus hon, fydd yn cymryd tua thair awr, ac sy’n 3.75 milltir o hyd, yn un llawr golygfeydd gwych. Dewi -----Original Message----- From: Sian Roberts Sent: Tuesday, November 23, 2010 12:05 PM To: [log in to unmask] Subject: The Begwns a Bwlch Hill Oes rhywun yn gwybod am enwau Cymraeg ar gyfer "The Begwns" (The Begwns: highland common. This is a 523 hectare hilltop common owned by the National Trust and situated to the north of the Brecon Beacons National Park) a "Bwlch Hill" - tua'r un ardal? Wedi dechrau cyfieithu capsiynau ar gyfer calendr cyn 9 bore 'ma - gan feddwl y byddai'n job fach hawdd i gychwyn - a dwi'n dal wrthi!! A dwi'n meddwl mai job am ddim yw hi - gaf i galendr am fy nhrafferth! Diolch Siân