----- Original Message -----
Sent: Sunday, November 21, 2010 9:21
PM
Subject: Re: Student Destinations
Mi faswn i'n ystyried 'destination' yn rhywle y mae'r myfyriwr
yn cyrchu tug ato - y nod/fan maen nhw'n gobeithio ei gyrraedd/ei chyrraedd ar
ol pasio arholiad/adael yr ysgol.
A 'hynt' i mi yw 'progress' - y daith sy'n eu cymryd at eu
cyrchnod/cyrchfan.
Siân
Date: Sun, 21 Nov 2010 20:21:53 +0000
From:
[log in to unmask]Subject:
Re: Student Destinations
To:
[log in to unmask]
Ond dw i, fel Gareth, yn anghyfforddus â "cyrchfannau" yn y cyd-destun
hwn a hyd yn oed yn fwy anghyfforddus â "cyrchnodau".
Yn ôl GPC, mae "cyrchnod" yn golygu "Nod y cyrchir ato - goal, aim" ond
mae'r myfyrwyr yma wedi cyrraedd y man lle maen nhw'n mynd.
Dw i wedi defnyddio "hynt" mewn sefyllfa fel hyn - ac mae "hynt" yn gallu
bod yn ddefnyddiol am "progress" hefyd.
Cofion
Siân
On 21 Tach 2010, at 19:59, Sian Jones wrote:
'Cyrchnodau' rydan ni wedi bod yn ei ddefnyddio
ers blynyddoedd ac wedi ei weld gan lawer o gyfieithwyr eraill hefyd.
Sian
Date: Mon, 22 Nov 2010 00:59:53 +0800
From:
[log in to unmask]Subject:
Student Destinations
To:
[log in to unmask]
A wyr unrhyw un beth yw cyfieithiad Estyn o
'destinations', sef cam nesaf dysgwyr (wedi iddynt gwblhau arholiadau TGAU,
er enghraifft)? Mae gwefan Llywodraeth y Cynulliad yn cyfieirio at
'Cyrchfannau Disgyblion', ond dydy hynny ddim yn taro deuddeg rhywsut. A
fyddai 'camau nesaf' neu 'dilyniant' yn dderbyniol (ac yn well na
'cyrchfannau') yn y cyd-destun
hwn?