A wyr unrhyw un beth yw cyfieithiad Estyn o
'destinations', sef cam nesaf dysgwyr (wedi iddynt gwblhau arholiadau TGAU, er
enghraifft)? Mae gwefan Llywodraeth y Cynulliad yn cyfieirio at 'Cyrchfannau
Disgyblion', ond dydy hynny ddim yn taro deuddeg rhywsut. A fyddai 'camau nesaf'
neu 'dilyniant' yn dderbyniol (ac yn well na 'cyrchfannau') yn y cyd-destun
hwn?