Print

Print


Neu efallai 'taw pia hi'? 
  ----- Original Message ----- 
  From: Carolyn 
  To: [log in to unmask] 
  Sent: Friday, November 19, 2010 12:38 AM
  Subject: ATB: Mind your P's and Q's ac ati


  Bosib y basa pethau syml fel 'Taw' a 'Bydd ddistaw' yn cyfleu'r ystyr os nad oes ymadroddion penodol ar gael.

  Carolyn

   


------------------------------------------------------------------------------

  Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran anna gruffydd
  Anfonwyd/Sent: 18 Tachwedd 2010 16:37
  At/To: [log in to unmask]
  Pwnc/Subject: Re: Mind your P's and Q's ac ati

   

  Fel deudais i, yn Saesneg y byddai fy nhad yn deud y petha hynny ac maen nhw'n perthyn fwy i ddiwylliant Lloegr na Chymru - be fasa ein neinia neu ein teidia ni wedi'i ddeud tybed? Ella bod gofyn bod yn fwy penagored a meddwl am ymadroddion oedd ganddyn nhw sydd heb fod ella'n cyfleu'r un ystyr yn union ond yr un ysbryd. Dal i feddwl - ella daw rhyw ysbrydoliaeth yn nes ymlaen!

  Anna

  2010/11/18 Gareth Jones <[log in to unmask]>

  Dyma'r cyd-destun:

   

  The roots of our emotional mistrust of others lie in our childhood and infancy when we were taught to be careful what we said to others."Mind your P's and Q's"; "Don't speak until you're spoken to"; "Children should be seen and not heard". As a result many people hold back from communicating their thoughts and feelings to others. 

    ----- Original Message ----- 

    From: anna gruffydd 

    To: [log in to unmask] 

    Sent: Friday, November 19, 2010 12:20 AM

    Subject: Re: Mind your P's and Q's ac ati

     

    Mae'n anodd, tydi - maen nhw'n betha sy'n perthyn i ddiwylliant arall - sori, dim help am y tro ond jyst i ddeud y meddylia am y peth!

    Anna

    2010/11/18 Gareth Jones <[log in to unmask]>

    "Mind your P's and Q's"; "Don't speak until you're spoken to"; "Children should be seen and not heard". 

     

    Tybed oes gan unrhyw un awgrymiadau ynglyn ag ymadroddion neu ddywediadau bachog i gyfleu'r uchod?