Cofiaf Bruce yn dweud mai’r geiriau anodd, wrth gwblhau’r Geiriadur, oedd geiriau oedd y tu allan i ddiwylliant y Cymry Cymraeg, e.e. playboy a yokel.   Yn amlwg, dyna pam mai “eisteddfod” heb newid yn y Saesneg, oherwydd nad yw eisteddfodau yn rhan o ddiwylliant Lloegr.  Ydyn ni’n dweud nad oedd y cyflwr arti-ffartiaidd yn bod ymhlith y Cymry Cymraeg naturiol tan nes iddo ledu o Loegr? Efallai’n wir.  Neu efallai bod gan bobl oes Dafydd ap Gwilym air am y peth, ond iddo fynd ar goll dros y canrifoedd?

 

Gwelais mai “pretentious” yw “arty-farty”.  Cymeraf nad yw geiriau fel ymhongar, rhodresgar a rhwysgfawr ddim yn help?

 

Ann


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 04 October 2010 10:42
To: [log in to unmask]
Subject: Re: arty-farty

 

Mae gen ti bwynt - fydda i'n meddwl weithia ein bod ni'n gor-gyfieithu. Fasat ti'n ei sillafu yn Gymraeg ta yn Saesneg? Dw inna'n mynd i jibio, anfon y cynigion i gyd at Lefi yn Y Lolfa a gadael iddo fo benderfynu.

Anna

2010/10/4 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>

Jibio ydi hyn ella, ond dwi'n meddwl y byswn i yn glynu at 'arty-farty' yn y cyd-destun yma. Does yna ddim cymal Cymraeg cyfatebol, mae'r odl a'r elfen rechlyd yn ei wneud yn derm unigryw i'r Saesneg, a dwi ddim yn gweld dim o'i le mewn mabwysiadu geiriau felly, yn union fel mae'r Saesneg yn ei wneud gyda gair fel 'eisteddfod', er enghraifft.

 

Geriant

----- Original Message -----

From: [log in to unmask]">anna gruffydd

Sent: Saturday, October 02, 2010 11:47 PM

Subject: Re: arty-farty

 

Do! Lecio celf-a-chrefftus, ond di arty-farty ddim cweit run peth ag arty-crafty, nagydi? - cyn holi, mi drychais i drwy bopeth ynglyn ag art a fart gan obeithio cael ysbrydoliaeth! Fuom i'n meddwl am ddefnyddio'r gair rhech mewn rhyw ffordd ac wedyn meddwl mai'r unig reswm mae o yn y Daesneg ydi am ei fod yn digwydd odli efo art felly rois i'r gora i feddwl am y gair hwnnw. Mae'n un anodd - ymadrodd mor slic yn Saesneg sy'n gallu golygu sawl gwahanol fath o aderyn. Dwi'n reit hoff o 'celfyddydgwn' (ar batrwm bolgwn etc sy'n ddifriol). Pwy bynnag a fynn wybod y penderfyniad terfynol, caiff aros tan ddaw'r gyfrol nesa i'r fei!

Anna

2010/10/3 Ann Corkett <[log in to unmask]>

 

 

Mae Bruce yn gofyn a wyt ti wedi edrych dan “arty” ac “arty-crafty” yn GyrA?

Ann


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 02 October 2010 18:30

Subject: Re: arty-farty

 

Daria, gallen hefyd. Lecio swn yr ymadrodd on i. Son mae Meic am bobol o Ganolfan Celfyddydau Chapter, felly mae'n siwr na dydi crachach celf yn yr achos yma ddim yn taro deuddeg, er cymaint on i'n ei lecio fo. Oce, beth am 'celfgwn uchel eu cloch'?

Anna

2010/10/2 Siān Roberts <[log in to unmask]>

Dwi ddim yn siwr ydi "arty farty" a "crachach celf(yddydol)" yn cyfleu yr un peth.  Dydyn nhw ddim yn creu'r un darlun yn fy meddwl i, beth bynnag.

 

"arty farty" yn gwneud i mi feddwl am ryw bobl ddramatig, hyderus, uchel eu cloch wedi'u gwisgo braidd yn hipļaidd

Gallai'r crachach celfyddydol fod yn ddynion mewn siwtiau llwyd.

 

Ie?  Na?

 

Siān

 

 

On 2 Hyd 2010, at 18:01, anna gruffydd wrote:

 

Wwww, ia, dwi'n lecio crachach celf. Ella basa'r ponsys gyniogiodd Ann yn gwneud ar gyfer y phonies?

Anna

2010/10/2 Neil Shadrach <[log in to unmask]>

Crachach celf(yddydol)?

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd


Sent: 02 October 2010 17:31
To: [log in to unmask]

Subject: [WELSH-TERMAU-CYMRAEG] arty-farty

 

 

Enw neu ansoddair neu'r ddau os oes modd. Chwilio am rywbeth bachog. Meddwl am 'celfgwn' ond yn teimlo bod isio rhywbeth ato fo i awgrymu'r wedd ymhongar - oes na ffordd ddifyrrach o ddeud 'ymhongar' - sy'n cyflythrennu? Naill ai celfgwn efo ansoddair neu rywbeth arall efo celf fel ansoddair. Yn nes ymlaen dwi'n defnyddio 'y garfan gelf' i fod yn llai difriol ond yn yr achos yma mae gofyn bod yn bur ddifriol. Gyda llaw, nid dogfen swyddogol mo hon, trydedd gyfrol hunangofiant Meic Stevens felly bod yn fachog piau hi yn hytrach na manwl gywirdeb! Diolch ymlaen llaw i chi gydweithwyr creadigol.

Anna