Do! Lecio celf-a-chrefftus, ond di arty-farty ddim cweit run peth ag arty-crafty, nagydi? - cyn holi, mi drychais i drwy bopeth ynglyn ag art a fart gan obeithio cael ysbrydoliaeth! Fuom i'n meddwl am ddefnyddio'r gair rhech mewn rhyw ffordd ac wedyn meddwl mai'r unig reswm mae o yn y Daesneg ydi am ei fod yn digwydd odli efo art felly rois i'r gora i feddwl am y gair hwnnw. Mae'n un anodd - ymadrodd mor slic yn Saesneg sy'n gallu golygu sawl gwahanol fath o aderyn. Dwi'n reit hoff o 'celfyddydgwn' (ar batrwm bolgwn etc sy'n ddifriol). Pwy bynnag a fynn wybod y penderfyniad terfynol, caiff aros tan ddaw'r gyfrol nesa i'r fei! Anna 2010/10/3 Ann Corkett <[log in to unmask]> > > > > > Mae Bruce yn gofyn a wyt ti wedi edrych dan “arty” ac “arty-crafty” yn > GyrA? > > Ann > ------------------------------ > > *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary > [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of *anna gruffydd > *Sent:* 02 October 2010 18:30 > > *To:* [log in to unmask] > *Subject:* Re: arty-farty > > > > Daria, gallen hefyd. Lecio swn yr ymadrodd on i. Son mae Meic am bobol o > Ganolfan Celfyddydau Chapter, felly mae'n siwr na dydi crachach celf yn yr > achos yma ddim yn taro deuddeg, er cymaint on i'n ei lecio fo. Oce, beth am > 'celfgwn uchel eu cloch'? > > Anna > > 2010/10/2 Siân Roberts <[log in to unmask]> > > Dwi ddim yn siwr ydi "arty farty" a "crachach celf(yddydol)" yn cyfleu yr > un peth. Dydyn nhw ddim yn creu'r un darlun yn fy meddwl i, beth bynnag. > > > > "arty farty" yn gwneud i mi feddwl am ryw bobl ddramatig, hyderus, uchel eu > cloch wedi'u gwisgo braidd yn hip*ďaidd* > > Gallai'r crachach celfyddydol fod yn ddynion mewn siwtiau llwyd. > > > > Ie? Na? > > > > Siân > > > > > > On 2 Hyd 2010, at 18:01, anna gruffydd wrote: > > > > Wwww, ia, dwi'n lecio crachach celf. Ella basa'r ponsys gyniogiodd Ann yn > gwneud ar gyfer y phonies? > > Anna > > 2010/10/2 Neil Shadrach <[log in to unmask]> > > Crachach celf(yddydol)? > > > > *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary > [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of *anna gruffydd > > > *Sent:* 02 October 2010 17:31 > *To:* [log in to unmask] > > *Subject:* [WELSH-TERMAU-CYMRAEG] arty-farty > > > > > > Enw neu ansoddair neu'r ddau os oes modd. Chwilio am rywbeth bachog. Meddwl > am 'celfgwn' ond yn teimlo bod isio rhywbeth ato fo i awgrymu'r wedd > ymhongar - oes na ffordd ddifyrrach o ddeud 'ymhongar' - sy'n cyflythrennu? > Naill ai celfgwn efo ansoddair neu rywbeth arall efo celf fel ansoddair. Yn > nes ymlaen dwi'n defnyddio 'y garfan gelf' i fod yn llai difriol ond yn yr > achos yma mae gofyn bod yn bur ddifriol. Gyda llaw, nid dogfen swyddogol mo > hon, trydedd gyfrol hunangofiant Meic Stevens felly bod yn fachog piau hi yn > hytrach na manwl gywirdeb! Diolch ymlaen llaw i chi gydweithwyr creadigol. > > Anna > > > > > > >