Print

Print


Ddaru 'mor hen a' daro mhen i ond roedd arna i ofn bod 'mor hen a' yn
sathredig - dwn i ddim pam.

Anna

2010/10/18 John Williams <[log in to unmask]>

>  sydd mor hen â - mae'n golygu'r un peth a does dim treiglad rhwng sydd a
> mor
>  ------------------------------
> *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd [
> [log in to unmask]]
> *Sent:* 18 October 2010 12:01
>
> *To:* [log in to unmask]
> *Subject:* Re: ATB/RE: which is as old as...
>
>  Does gen i ddim obadeia be ydi dibeniad chwaith. Y frawddeg ydi: "The
> oldest part is the walled & moated Norman town as old as the 13th century".
> Ella bod yna ffordd o osgoi'r sefyllfa, ond dwi'm yn meddwl y medra i ddeud
> 'cyn hyned' ar ei ben ei hun heb y 'sydd'. Rhoi coma yn lle 'sydd' hwyrach?
> Mae 'sydd gyn hyned' yn swnio'n od drybeilig i mi.
>
> Anna
> 2010/10/18 David Bullock <[log in to unmask]>
>
>>  Yn ôl disgrifiad TJ Morgan yn Y Treigladau a’u Cystrawen, t290, mae yna
>> dreiglad meddal yn y dibeniad yn dilyn ‘sydd’.
>>
>>
>>
>> Er enghraifft, ‘Mi sydd fachgen ieuanc ffôl...’ yw’r gân, hefyd , nid
>> ‘sydd bachgen’.
>>
>>
>>
>> Ydy “cyn hyned” yma yn ddibeniad sy’n gwestiwn arall. (Dwi erioed wedi
>> deall beth yw dibeniad!)
>>
>>
>>
>>
>>
>> *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>> [mailto:[log in to unmask]] *Ar ran/On Behalf Of *anna
>> gruffydd
>> *Sent:* 18 Hydref 2010 11:32
>> *To:* [log in to unmask]
>> *Subject:* which is as old as...
>>
>>
>>
>> Maeddeuwch f'anwybodaeth affwysol - ydi sydd yn achosi treiglad meddal,
>> e.e. sydd cyn hyned - mae Cysill yn deud wrtha i ei fod. Diolch
>>
>> Anna
>>
>
>
> ------------------------------
> * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * *
> * * * * * *
>
> This e-mail message and any attachments are confidential and intended
> solely for
> the use of the individual or organisation to whom it is addressed. If you
> are not
> the intended recipient and have received this e-mail in error, any use,
> dissemination,
> forwarding, printing, or copying of it is strictly prohibited and you are
> requested to
> contact the sender and delete the material from any computer. Opinions,
> conclusions
> and other information in this message that do not relate to the official
> business of
> Wrexham County Borough Council shall be understood as neither given nor
> endorsed by it. ..
>
> Mae'r neges e-bost hon, ac unrhyw ffeil sydd ynghlwm wrthi, yn gyfrinachol
> ac fe'i
> bwriedir ar gyfer yr unigolyn neu'r sefydliad y cyfeiriwyd hi ato. Os nad
> chi yw'r
> derbynnydd priodol ond eich bod wedi derbyn y neges e-bost hon trwy
> gamgymeriad,
> gwaherddir ei defnyddio, ei lledaenu, ei hanfon ymlaen, ei hargraffu a'i
> chopio a gofynnir i chi gysylltu a'r sawl a'i hanfonodd a dileu'r deunydd o
> bob
> cyfrifiadur os gwelwch yn dda. Dealler nad yw Cyngor Bwrdeistref Sirol
> Wrecsam
> yn rhoi na cyn cymeradwyo barn, casgliadau a gwybodaeth arall sydd yn y
> neges hon nad
> yw'n ymwneud a'i fusnes swyddogol.
>
> * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * *
> * * * * * *
>