Print

Print


Diolch am yr hanesion addysgiadol a difyr gan y ddwy ohonoch!

Nia

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 29 September 2010 12:17
To: [log in to unmask]
Subject: Re: typair

Annwyl Mary,

Diolch am y disgrifiad.  'Roedd gennym adeilad od iawn gartref, yn swydd Buckingham, oedd yn rhan o'r ffermdy, ar gornel siap "L" rhwng y ty go iawn a rhai sguboriau, ystafell harnais ayb.   Ni ddefnyddiwyd y pair, a oedd, fel y dywedwch, wedi'i osod mewn rhyw adeiladwaith o friciau, bryd hynny, ond deallais mai at ferwi dillad oedd o, a dyna pam nad oeddwn i wedi meddwl am y defnydd arall, at baratoi bwyd anifeiliaid.

Pan werthwyd y fferm, ar ol i Nhad gael trawiad ar y galon, dechreuwyd ar y gwaith o addasu'r ty i'r perchnogion newydd cyn inni symud allan.  Cofiaf fy mam yn dal i ddefnyddio'r gegin, a tharpolin dros ran o un wal, lle roedden nhw wedi dechrau tynnu'r hen "dy pair"  i lawr - mae'n swnio'n anhygoel ddyddiau hyn, ond ydy?  Mae gen i o hyd gwpl o bethau a gafwyd wedi'u hadeiladu i mewn i'r gwaith brics. Peidiwch a gofyn imi le'n union oeddent wedi'u gosod, i gael gwrthsefyll y gwres; dim ond ar ol imi ddod adref o'r ysgol clywais i hyn. Y pethau oedd par o "handcuffs" a hen bapur newydd yn cynnwys cwest ar ryw hunanladdiad arbennig o annymunol (a oedd wedi digwydd oherwydd i wraig a'r cyfenw "Corkett" gario clecs anghywir!)

Ar ol inni symud allan o'r ty, bum yn chwarae weithiau ar y safle ar ol oriau ysgol, a gwelais fod trawst wedi'i ddatgelu, wedi'i gerfio a rhosynnau - ond erbyn imi son wrth y perchnogion newydd, 'roedd rhywun wedi mynd ag o.  Gyda llaw, tra 'roedden ni'n dal i fyw ar y fferm, a bwthyn y gweithiwr yn cael ei addasu inni, byddwn i'n mynd yno bob prynhawn ar ol ysgol, a dringo'r sgaffaldiau a chwarae arnynt.  Mor ddiflas o ddiogel yw bywyd i blant heddiw!

Maddeuwch imi am hyn - hiraeth am y dyddiau a fu.

Ann
________________________________
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Mary Jones
Sent: 29 September 2010 11:51
To: [log in to unmask]
Subject: Re: typair

Ann
Mae'n debyg mai'r ty^ pair yw hwn. Mae'n gyfarwydd yng ngwaelod Ceredigion a gogledd Sir Benfro, ac yn dal yn air byw ar ffermydd, mi fentra. Byddai crochan yn un o'r 'tai ma's', ac yn amal iawn yr hen ffermdy gwreiddiol fyddai hwnnw. Byddai'r crochan / pair wedi ei osod mewn rhyw fath o adeiladwaith o friciau a lle ta^n odano i ferwi'r dw^r ar gyfer golchi'r dillad mewn baddon tun ar fore Llun. Yn y pair hwnnw hefyd y byddid yn bewri dw^r ar ddiwrnod lladd mochyn.
Ond yno hefyd mewn casgen bren y byddem ni'n cadw 'golchan' y moch (sef sborion y ty^, etc ac unrhyw beth fyddech chi'n ei roi ar y domen gompost heddiw, gan greu rhyw fath o wlybanwch drewllyd i'w roi ar ben bwyd y moch. Dim dyn Iechyd a Diogelwch na rheolau Ewropeaidd bryd hynny!  Mae'n siw^r mai yno hefyd y byddai'r cw^n yn cysgu.
Mary

Ddrwg gen i am llith - eto!

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 28 September 2010 15:21
To: [log in to unmask]
Subject: typair

Demolition of leanto and typair

Dyma'r cyd-destun, mewn cofnodion cynllunio.  Mae arna i eisiau deall y Gymraeg er mwyn troi'r cyfan yn Gymraeg.  Yn y cyd-destun, mae'n annhebyg of fod "ty^ pa^r".  Ydw i'n iawn wrth ddyfalu mae "cauldron house" yw hyn, sef lle byddid yn berwi'r dillad yn yr hen ddyddiau? Ydy'r term yn un cyfarwydd, ac un y dylwn gadw ato (dau air efallai?)  'Rwy'n meddwl mai "wash-house" y byddwn i'n ei ddweud yn Saeneg, ond 'rwy'n methu dod o hyd i hwnnw yng Ngeiriadur yr Academi, ac mae Bruce allan!

Diolch am syniadau,

Ann