Dw i ddim yn siwr os ydi hyn o ryw help i chi Ann. 'Cegin foch - Yr ystafell neu'r adeilad ynghlwm wrth y ty fferm lle berwid bwyd moch, briws (Dyffryn Clwyd). Yma hefyd, yn aml, y cedwid mawn yn barod wrth law. Ar lafar yn Llyn.' (Cydymaith Byd Amaeth - Cyfrol 1) Does gen i ddim copi o gyfrol 4 gen i ofn i edrych os ydi 'ty pair' ynddo fo. Rhian In a message dated 28/09/2010 15:20:49 GMT Daylight Time, [log in to unmask] writes: Demolition of leanto and typair Dyma’r cyd-destun, mewn cofnodion cynllunio. Mae arna i eisiau deall y Gymraeg er mwyn troi’r cyfan yn Gymraeg. Yn y cyd-destun, mae’n annhebyg of fod “ty^ pa^r”. Ydw i’n iawn wrth ddyfalu mae “cauldron house” yw hyn, sef lle byddid yn berwi’r dillad yn yr hen ddyddiau? Ydy’r term yn un cyfarwydd, ac un y dylwn gadw ato (dau air efallai?) ‘Rwy’n meddwl mai “ wash-house” y byddwn i’n ei ddweud yn Saeneg, ond ‘rwy’n methu dod o hyd i hwnnw yng Ngeiriadur yr Academi, ac mae Bruce allan! Diolch am syniadau, Ann