Gydag ychydig iawn o eithriadau (eithaf pwysig), nid yw Cyfraith Loegr yn gofyn i gontract fod mewn ysgrifen. Mae gofyn am gynnig gan un parti, derbyn gan y llall, a chydnabyddiaeth sef y tâl am yr addewid (nad oes raid iddi fod yn ariannol). Byddai modd gwneud contract heb ddweud yr un gair - e.e., drwy roi arian mewn peiriant er mwyn cael tocyn i faes parcio.
Yn wahanol i gontractau o dan y Gyfraith Sifil (fel yn Ffrainc, er enghraifft, neu'r Alban), mater ehangach na chyd-daro rhwng dau ewyllys yw contract fan hyn. Byddai'n llai o ffwdan - ac, mae'n debyg, o draul ar y coffrau hefyd - i dalu am ddogfen jonac yn y lle cyntaf.
 
Yn iach,
 
 
 
Tim
 
 
Tim Saunders
Cyfieithydd Translator
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Rhondda Cynon Taf County Borough Council


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 23 September 2010 13:13
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ffurflenni cyfreithiol

Yn hollol.
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Mary Jones
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Thursday, September 23, 2010 11:12 AM
Subject: Re: ffurflenni cyfreithiol

Hyd y gwela i, rhywbeth ffurfiol ar bapur rhwng dau yw cytundeb, boed yn gytuneb cyflogaeth neu denantiaeth neu beth bynnag, Felly, llunio’ch fersiwn Gymraeg eich hun yw’r ateb a’ch cyfreithwraig wedyn yn sicrhau bod y fersiwn honno’n cyfleu popeth rydych chi’n ei ddymuno. Fel ewyllys, mynegiant o’ch dymuniad chi yw cytundeb.

Mary

 

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Megan TomosSent: 22 September 2010 22:50
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ffurflenni cyfreithiol

 

Dyma faes y byddai'n dda i'r Bwrdd roi arweiniad arno a chreu banc o gyfieithiadau.  Dwi'n siwr y byddaf i mewn sefyllfa lle byddaf unwaith eto yn talu i gyfreithiwr am gyfieithu dogfennau trosglwyddo eiddo.   
 
Megan
 


Date: Wed, 22 Sep 2010 21:35:42 +0100
From: [log in to unmask]
Subject: ffurflenni cyfreithiol
To: [log in to unmask]

Tybed all rhywun helpu. Gofynais i fy nghyfreithwriag heddiw i lunio cytundeb tenantiaeth yn Gymraeg i roi i denant newydd.  Roed ganddi'r ffurflen saesneg wedi ei chael ar lein . Tybed oes un Gymraeg i'w chael yn rhywle ?


This transmission is intended for the named addressee(s) only and may contain sensitive or protectively marked material up to RESTRICTED and should be handled accordingly. Unless you are the named addressee (or authorised to receive it for the addressee) you may not copy or use it, or disclose it to anyone else. If you have received this transmission in error please notify the sender immediately. All traffic including GCSx may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation

For the full disclaimer please access http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer

 

Mae'r neges ar gyfer y person(au) a enwyd yn unig a gall gynnwys deunydd sensitif neu ddeunydd sy wedi'i farcio hyd at 'CYFYNGEDIG' a dylid ei thrin yn unol a hynny. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os nad oes gyda chi'r awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch chi ddim ei chopio neu'i defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os ydych wedi derbyn y neges ar gam a wnewch roi gwybod i'r sawl sy wedi anfon y neges ar unwaith. Mae modd cofnodi a/neu fonitro holl negeseuon GCSX yn unol a'r ddeddfwriaeth berthnasol. 

I weld yr ymwadiad llawn ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad