Print

Print


A yw 'confrontative' gyfystyr a 'confrontational'? Mae 'confrontational' yn swnio'n negyddol i mi, ond dwi wedi dod ar draws 'confrontative' mewn dogfen sy'n trafod sgiliau goruchwylio. Mae'r gair 'confrontative' yn disgrifio goruchwyliwr sy'n fodlon herio gweithiwr (trwy ofyn cwestiynau anodd iddo) er ei les ei hun a defnyddio iaith eithaf uniongyrchol, felly dydy'r ystyr ddim yn negyddol. Beth fyddai'r ffordd orau o gyfleu hyn yn y Gymraeg tybed?

Yn ol un drafodaeth ar wordreference.com, 'The OED doesn't (yet) recognise either confrontive or confrontative, though it's happy with confrontational'.