Cytuno!

Anna

2010/9/15 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>
Da!
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">John Williams
To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">[log in to unmask]
Sent: Wednesday, September 15, 2010 10:49 AM
Subject: Re: unprotected sex

Rhyw cignoeth? - Disgrifiad afiach dwi'n gwybod, ond dydy amddiffyn ddim yn gweithio o gwbl yma  - wel dydy o ddim yn ddewis amlwg i mi beth bynnag, ac er bod condom yn ymdrech i ddiogelu rhag beth bynnag, dydyn nhw ddim gant y cant yn saff - medden nhw/yn ôl yr ystadegau mae'n bosibl.  Gallai rhyw efo condom fod yn rhyw anniogel ac mae angen gwahaniaethu.

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [[log in to unmask]] On Behalf Of Claire Richards [[log in to unmask]]
Sent: 15 September 2010 09:20
To: [log in to unmask]
Subject: Re: unprotected sex

Dwi’n meddwl bod ‘unprotected sex’ yn golygu rhyw o unrhyw fath heb unrhyw beth i’ch diogelu rhag clefydau neu rhag beichiogi.  Condom yw hynny fel arfer, ond mae ’na ddulliau eraill – dwi wedi cael hwyl a sbri yn ceisio cyfieithu ambell un ohonynt. 

 

Ta waeth, mae 25 enghraifft o’r ymadrodd ‘rhyw heb amddiffyniad’ ar Google ond dwi’n meddwl y byddai ‘rhyw anniogel’ yn gwneud y tro yn iawn.

 

Claire

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of MEG ELIS
Sent: 14 September 2010 18:25
To: [log in to unmask]
Subject: unprotected sex

 

Dwi'n trio cael term gweddol gryno (mewn gwefan i bobl ifanc) ac mae "rhyw heb ddulliau/ddefnyddio atal cenhedlu" yn ormod. Dwi'n cael fy nhemtio i roi "rhyw anniogel" gydag esboniad y tro cyntaf mewn cromfachau - cytuno neu os gan rywun awgrym gwell?

 

Diolch ymlaen llaw.

 



* * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * *

This e-mail message and any attachments are confidential and intended solely for
the use of the individual or organisation to whom it is addressed. If you are not
the intended recipient and have received this e-mail in error, any use, dissemination,
forwarding, printing, or copying of it is strictly prohibited and you are requested to
contact the sender and delete the material from any computer. Opinions, conclusions
and other information in this message that do not relate to the official business of
Wrexham County Borough Council shall be understood as neither given nor endorsed by it. ..

Mae'r neges e-bost hon, ac unrhyw ffeil sydd ynghlwm wrthi, yn gyfrinachol ac fe'i
bwriedir ar gyfer yr unigolyn neu'r sefydliad y cyfeiriwyd hi ato. Os nad chi yw'r
derbynnydd priodol ond eich bod wedi derbyn y neges e-bost hon trwy gamgymeriad,
gwaherddir ei defnyddio, ei lledaenu, ei hanfon ymlaen, ei hargraffu a'i
chopio a gofynnir i chi gysylltu a'r sawl a'i hanfonodd a dileu'r deunydd o bob
cyfrifiadur os gwelwch yn dda. Dealler nad yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
yn rhoi na cyn cymeradwyo barn, casgliadau a gwybodaeth arall sydd yn y neges hon nad
yw'n ymwneud a'i fusnes swyddogol.

* * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * *