Dwi'n hoffi'r cyfieithiad thermomedr stilio.  Mae'r f'atgoffa i o'r term Saesneg 'Stealth Bomber' - na fedr radar mo'i weld.  Ac yn fy hoff gyfres Star Trek the Next Generation, bob tro mae rhywbeth o flaen yr Enterprise nad yw'r criw yn ei ddeall, mae Captain Jean Luc Picard yn gorchymyn 'Launch a probe'.  Mae 'probe' decini, yn rhywbeth nad yw'n hawdd ei weld, ac sy'n gwneud ei waith o'r golwg.  Tebyg i'r darn metel dan sylw yma sy'n cael ei wthio i ganol y cig.
 
 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn [[log in to unmask]]
Sent: 07 September 2010 11:28
To: [log in to unmask]
Subject: ATB: ATB/RE: probe thermometer

Mae ynganiad y ddau 'stilio' yn wahanol dw i'n meddwl. Mae'r 'i' yn 'stilo' (smwddio) yn hir (fel yn y steel) ond yr 'i' yn 'stilio' (holi a stilio) yn fyr. Ydy hyn yn awgrymu bod tarddiad y ddau'n wahanol?

Carolyn

 


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Siân Roberts
Anfonwyd/Sent: 07 Medi 2010 11:26
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: ATB/RE: probe thermometer

 



Onid ydi’n fwy tebyg o ddod o ‘steel’, h.y. y deunydd mae wedi’i wneud ohono?  

 

Felly ro'n innau'n meddwl hefyd.  On'd yw iaith yn beth rhyfeddol?!

Wnes i flogio rhyw dro am eiriau Cymraeg sydd wedi'u benthyg o'r Saesneg ond nad ydyn nhw'n golygu yr un peth â'r gair Saesneg erbyn hyn.

http://siantirdu.wordpress.com/2010/04/05/mynd-ar-y-galifant-i-gael-bwyd-ffein/

 

Siân

 

On 7 Medi 2010, at 11:16, Claire Richards wrote:



Maen nhw'n meddwl falle bod y cyfan yn dod o "stilio" =  "distyllu".   Hm?”

 

Cytuno’n llwyr gyda’r “Hm?”.  Fel yn achos ‘stilo’ = ‘smwddio’, gweler Geiriadur Rhydychen eto “steel n. d. A flat-iron. Obs. exc. dial. a hefyd steel v. 7. dial. To iron (clothes)”.

 

Wedi dweud hynny, allaf i ddim cael hyd i unrhyw enghraifft o ‘steel’ yn cael ei ddefnyddio i olygu ‘probe’ yn Saesneg.  Ond rywsut, rywdro mae’r Cymry wedi mynd i’r arfer o ddefnyddio ‘stiliwr’ a ‘stilio’.

 

Claire

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Siân Roberts
Sent: 07 September 2010 10:56
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB/RE: probe thermometer

Ond mae GyrA yn rhoi "stiliwr" am yr enw "probe" (Surg) (gyda "chwiliedydd" a "profiedydd") a "stilio" am y ferf (Med) (gyda "chwilio" a "chwilota". A GPC yn rhoi "prob llawfeddyg" am "stiliwr". 

Maen nhw'n meddwl falle bod y cyfan yn dod o "stilio" =  "distyllu".   Hm?

 

Siân

 

 



* * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * *

This e-mail message and any attachments are confidential and intended solely for
the use of the individual or organisation to whom it is addressed. If you are not
the intended recipient and have received this e-mail in error, any use, dissemination,
forwarding, printing, or copying of it is strictly prohibited and you are requested to
contact the sender and delete the material from any computer. Opinions, conclusions
and other information in this message that do not relate to the official business of
Wrexham County Borough Council shall be understood as neither given nor endorsed by it. ..

Mae'r neges e-bost hon, ac unrhyw ffeil sydd ynghlwm wrthi, yn gyfrinachol ac fe'i
bwriedir ar gyfer yr unigolyn neu'r sefydliad y cyfeiriwyd hi ato. Os nad chi yw'r
derbynnydd priodol ond eich bod wedi derbyn y neges e-bost hon trwy gamgymeriad,
gwaherddir ei defnyddio, ei lledaenu, ei hanfon ymlaen, ei hargraffu a'i
chopio a gofynnir i chi gysylltu a'r sawl a'i hanfonodd a dileu'r deunydd o bob
cyfrifiadur os gwelwch yn dda. Dealler nad yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
yn rhoi na cyn cymeradwyo barn, casgliadau a gwybodaeth arall sydd yn y neges hon nad
yw'n ymwneud a'i fusnes swyddogol.

* * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * *