Diolch I ti Sian am fynd I’r drafferth o holi am awgrymiadau ar Facebook ac hefyd am wneud I mi feddwl am yr holl agweddau I’r ymadrodd ( ac i bawb arall a gyfrannodd at y drafodaeth).

 

Wedi ystyried yr holl awgrymiadau, dwi’n meddwl mai “Bwyty Archebu o’r Car” sy’n gweddu orau ar gyfer y ddogfen ryw’n ei chyfieithu sef Uned i fyfyrwyr yn Cyflwyno’r Diwydiant Croesawiaeth ac Arlwyo gan sylweddoli y buasai rhai o’r cynigion eraill yn well mewn cyd-destunau eraill. mwy anffurfiol.

 

Nia

 

 

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Siān Roberts
Sent: 06 September 2010 17:32
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB: ATB: Drive Ins

 

Ymatebion Facebook i'w gweld fan hyn:  http://www.facebook.com/profile.php?id=619575435

 

Yn fras: 

1) caffi o'r car?

2) Swedeg, Eidaleg, Sbaeneg ac Almaeneg yn defnyddio 'drive-in' i drosi 'drive-in' .. entrer en voiture yn Ffrangeg... Byddai 'caffi gyrru i mewn' yn gwneud synnwyr ac yn eglur er ei hired 

3) danteithfa ?

4) beth yw drive-in caffi? swnio'n beryglus. drive thru nagefe?

 

Efallai y byddai "caffi gyrru trwodd" cystal ā dim.

 

Diolch o bawb

 

Siān

 

 

On 6 Medi 2010, at 15:32, Sian Jones wrote:



Byddai Bwyty Archebu o'r Car a Sinema Gwylio o'r Car yn gweithio


Date: Mon, 6 Sep 2010 15:30:47 +0100
From: [log in to unmask]
Subject: ATB: ATB: Drive Ins
To: [log in to unmask]

Mae 'gyrru a gwylio' i fi'n awgrymu bod y ddau beth yn digwydd ar unwaith - peryg braidd!

 


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Translation Unit
Anfonwyd/Sent: 06 Medi 2010 15:28
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: ATB: ATB: Drive Ins

 

O ran sinemāu, beth am Sinema Gyrru a Gwylio?

 

Hwyl,
Llyr Evans


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Sian Jones
Anfonwyd/Sent: 06 September 2010 14:57
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: ATB: Drive Ins

 

Syniad da - Bwyty Gyrru a Gwario, Sinema Gyrru a Gwario - ond ydy hynny'n cyfleu'r ffaith dy fod ti'n aros yn y car i fwyta/gwylio?


Date: Mon, 6 Sep 2010 14:53:02 +0100
From: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB: Drive Ins
To: [log in to unmask]

Dyw’r gair Drive-in ddim yn golygu lle sy’n gwerthu bwyd o reidrwydd – e.e. drive-in movie theatre

Tybed felly a fyddai Gyrru a Phrynu neu Gyrru a Gwario yn briodol?

 

Gareth

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Nia Humphreys
Sent: 06 September 2010 14:28
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB: Drive Ins

 

Beth am “Bwyty archebu o’r car” felly i gynnwys yr holl elfennau hanfodol?

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Jones
Sent: 06 September 2010 14:24
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB: Drive Ins

 

Mae mannau fel macDonalds yn eu galw eu hunain yn 'restaurants' yn hytrach na chaffis, felly efallai mai bwytai fyddai fwyaf derbyniol yn Gymraeg? ('Bwyty bocs' falle - yn ol siap yr adeilad a'r ffaith fod y bwyd fel arfer yn dod mewn bocs!)


Date: Mon, 6 Sep 2010 14:15:11 +0100
From: [log in to unmask]
Subject: ATB: Drive Ins
To: [log in to unmask]

Ond mae'n rhaid cael rhyw gyfeiriad at fwyd/bwyty/caffi os nad yw'r cyd-destun yn amlwg - ne fe allai rhywun fod yn archebu rhywbeth.

 

Carolyn

 


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Siān Roberts
Anfonwyd/Sent: 06 Medi 2010 14:06
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: Drive Ins

 

Ie - byddai'n well dweud "archebu o'r car" mewn dogfen ffurfiol.

Dw i wedi holi ar Facebook rhag ofn bod gan rywun syniad da.

 

Siān

 

On 6 Medi 2010, at 13:55, Nia Humphreys wrote:

 

Beth am “archebu o’r car” te? Ydy hynny yn swnio’n dderbyniol? Dwi ddim yn or hoff o “ordro”.

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Jones
Sent: 06 September 2010 13:53
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Drive Ins

 

Mi allwn i ddychmygu pobl yn dweud - aethon ni draw i'r lle ordro o'r car, neu'r lle prynu o'r car - mae o'n dweud y cyfan. Mi allwn i hefyd ddychymygu arwydd ar ochr MacDonalds yn dweud 

DRIVE-IN

PRYNU O'R CAR

 

 


Date: Mon, 6 Sep 2010 13:38:32 +0100
From: [log in to unmask]
Subject: Re: Drive Ins
To: [log in to unmask]

Ie - ond mae angen term sy'n mynd i gael ei ddefnyddio'n gyffredinol - heb esboniad - yn y dyfodol

 

Dyw pobl sy'n mynd i le tebyg i McDonalds ddim yn debygol o ddweud "Cawsom swper o fwyty min y ffordd"  :-))

 

caffi ordro o'r car ?

 

On 6 Medi 2010, at 13:25, Nia Humphreys wrote:

 

Dwi’n cytuno y gellir ei gamgymryd am “roadside café” ond fel yr eglurais  (mi wnaeth ein negeseuon ni groesi),  gyda’r esboniad sy’n dilyn dylai wneud synnwyr.

 

Diolch am dy awgrym dithau ond ma hynny I fi yn awgrymu fod y caffi y tu mewn i gar.

 

Nia

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Siān Roberts
Sent: 06 September 2010 12:15
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Drive Ins

 

Dw i ddim yn meddwl bod "bwyty min ffordd" yn cyfleu "drive in".

 

"caffi car"? 

 

Siān

 

 

On 6 Medi 2010, at 11:54, John Williams wrote:

 

bwyty min ffordd - GyrA - bwytai min ffordd felly


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [[log in to unmask]] On Behalf Of Alison Reed [[log in to unmask]]
Sent: 06 September 2010 11:47
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Drive Ins

Pryd ar glud?? - meals on wheels, dwi’n gwybod, ond yn cyfleu’r un ystyr o bosib?

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Nia Humphreys
Sent: 06 September 2010 11:19
To: [log in to unmask]
Subject: Drive Ins

 

Yng nghyd -destun y diwydiant Arlwyo. Unrhyw awgrymiadau bachog?

 

 

Nia M Humphreys

Cyfieithydd / Translator

Coleg Menai,

Llangefni

Tel (01248) 370125 Est  / Ext 2236

 

 


* * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * *

This e-mail message and any attachments are confidential and intended solely for
the use of the individual or organisation to whom it is addressed. If you are not
the intended recipient and have received this e-mail in error, any use, dissemination,
forwarding, printing, or copying of it is strictly prohibited and you are requested to
contact the sender and delete the material from any computer. Opinions, conclusions
and other information in this message that do not relate to the official business of
Wrexham County Borough Council shall be understood as neither given nor endorsed by it. ..

Mae'r neges e-bost hon, ac unrhyw ffeil sydd ynghlwm wrthi, yn gyfrinachol ac fe'i
bwriedir ar gyfer yr unigolyn neu'r sefydliad y cyfeiriwyd hi ato. Os nad chi yw'r
derbynnydd priodol ond eich bod wedi derbyn y neges e-bost hon trwy gamgymeriad,
gwaherddir ei defnyddio, ei lledaenu, ei hanfon ymlaen, ei hargraffu a'i
chopio a gofynnir i chi gysylltu a'r sawl a'i hanfonodd a dileu'r deunydd o bob
cyfrifiadur os gwelwch yn dda. Dealler nad yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
yn rhoi na cyn cymeradwyo barn, casgliadau a gwybodaeth arall sydd yn y neges hon nad
yw'n ymwneud a'i fusnes swyddogol.

* * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * *

 

 

 

COLEG MENAI, FFORDD FRIDDOEDD, BANGOR, GWYNEDD, LL57 2TP.

Tel.01248370125 Fax.01248370052

www.menai.ac.uk

 

Mae’r e-bost hwn ac unrhyw ddogfen sydd ynghlwm yn gyfrinachol ac at sylw’r unigolyn y cyfeiriwyd y neges ato yn unig.  Os digwydd i’r neges eich cyrraedd drwy gamgymeriad a fyddech gystal ā chysylltu ā’r person a anfonodd y neges a dileu’r deunydd oddi ar unrhyw gyfrifiadur ac ni ddylech gopļo, dosbarthu na dangos y cynnwys i unrhyw un.  Gall y neges gynnwys safbwyntiau personol nad ydynt yn safbwyntiau gan GolegMenai, oni bai y nodwyd hynny’n bendant Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am golled neu niwed a achosir o ganlyniad i firysau yn y meddalwedd.

 

This email and any attachments are confidential and intended for the named recipient only. If it has reached you by mistake please contact the sender and delete the material from any computer and you should not copy, distribute or show the content to anyone. The contents of the message may contain personal views which are not the views of Coleg Menai, unless specifically stated. We cannot accept any liability for any loss or damage sustained as a result of software viruses.