O, ie - anghofiais i am y procio a'r pryfocio!

Rhyfedd, 'te - fel mae "anwytho" yn cael ei ddefnyddio am "induction" mewn ymadroddion fel "diwrnod anwytho"

Ond mae GyrA yn rhoi "stiliwr" am yr enw "probe" (Surg) (gyda "chwiliedydd" a "profiedydd") a "stilio" am y ferf (Med) (gyda "chwilio" a "chwilota". A GPC yn rhoi "prob llawfeddyg" am "stiliwr". 
Maen nhw'n meddwl falle bod y cyfan yn dod o "stilio" =  "distyllu".   Hm?

Siân




On 7 Medi 2010, at 10:41, David Bullock wrote:

Dim ond yn yr ymadrodd ‘holi a stilio’ y clywes i ‘stilio’ am wn i, ac yn ôl GPC, ‘holi, busnesa’ yw ystyr ‘stilio’, nid procio neu dyllu neu dreiddio.
 
Felly, ydy’r enghraifft yma o ‘thermomedr stilio’ yn gynnig lle mae rhywun wedi meddwl iddo’i hunan, beth yw’r gair Cymraeg am ‘probing’? O ie, ‘stilio’ fel yn ‘holi a stilio’, heb sylweddoli mai ‘thermomedr holi’, ‘thermomedr busnesa’ yw’r ystyr mewn gwirionedd?
 
Cofiwch, dwi ddim yn dweud bod rhaid ceisio atal ystyr geiriau rhag newid (fel yr aeth tanwydd i olygu petrol a disel yn hytrach na choed tân); dim ond ei bod yn well os ydyn ni’n deall o ble mae’r pethau yma wedi dod.
 
 
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Siân Roberts
Sent: 07 Medi 2010 10:10
To: [log in to unmask]
Subject: Re: probe thermometer
 
Helo Claire
 
Dw i ddim yn gyfarwydd â'r gair "stilio" - dim ond "stilo" am "smwddio"!
Fyddai "thermomedr treiddio" yn cyfleu'r ystyr?
 
Cofion
Siân
 
 
On 7 Medi 2010, at 10:03, Claire Richards wrote:


Teclyn a ddefnyddir ym maes diogelwch bwyd.
 
 
Dwi wedi gweld enghreifftiau o ‘thermomedr profi” ar y we, ond dwi ddim yn meddwl bod hynny’n cyfleu’r ffaith bod gan y thermomedr stiliwr sy’n cael ei wthio i’r bwyd (cig, fel arfer) i wirio’r tymheredd.
 
Mae un enghraifft o ‘thermomedr stilio’ ar y we, ac yn bersonol mae’n well gen i hynny. 
 
Unrhyw sylwadau / cynigion?
 
Claire
 
Mae Pennawd Cyf yn gwmni cyfyngedig wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan y rhif cofrestru 4276774, a chyfeiriad y swyddfa gofrestredig yw 53 Heol yr Orsaf, Ystum Taf, Caerdydd, CF14 2FB.
 
Pennawd Cyf is a limited company registered in England and Wales under the number 4276774, and the address of the registered office is 53 Station Road, Llandaff North, Cardiff, CF14 2FB.
 
 

No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 9.0.851 / Virus Database: 271.1.1/3117 - Release Date: 09/06/10 19:34:00