Print

Print


O, ie - anghofiais i am y procio a'r pryfocio!

Rhyfedd, 'te - fel mae "anwytho" yn cael ei ddefnyddio am "induction"  
mewn ymadroddion fel "diwrnod anwytho"

Ond mae GyrA yn rhoi "stiliwr" am yr enw "probe" (Surg) (gyda  
"chwiliedydd" a "profiedydd") a "stilio" am y ferf (Med) (gyda  
"chwilio" a "chwilota". A GPC yn rhoi "prob llawfeddyg" am "stiliwr".
Maen nhw'n meddwl falle bod y cyfan yn dod o "stilio" =   
"distyllu".   Hm?

Siân




On 7 Medi 2010, at 10:41, David Bullock wrote:

> Dim ond yn yr ymadrodd ‘holi a stilio’ y clywes i ‘stilio’ am wn i,  
> ac yn ôl GPC, ‘holi, busnesa’ yw ystyr ‘stilio’, nid procio neu  
> dyllu neu dreiddio.
>
> Felly, ydy’r enghraifft yma o ‘thermomedr stilio’ yn gynnig lle mae  
> rhywun wedi meddwl iddo’i hunan, beth yw’r gair Cymraeg am  
> ‘probing’? O ie, ‘stilio’ fel yn ‘holi a stilio’, heb sylweddoli  
> mai ‘thermomedr holi’, ‘thermomedr busnesa’ yw’r ystyr mewn  
> gwirionedd?
>
> Cofiwch, dwi ddim yn dweud bod rhaid ceisio atal ystyr geiriau rhag  
> newid (fel yr aeth tanwydd i olygu petrol a disel yn hytrach na  
> choed tân); dim ond ei bod yn well os ydyn ni’n deall o ble mae’r  
> pethau yma wedi dod.
>
>
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and  
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On  
> Behalf Of Siân Roberts
> Sent: 07 Medi 2010 10:10
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: probe thermometer
>
> Helo Claire
>
> Dw i ddim yn gyfarwydd â'r gair "stilio" - dim ond "stilo" am  
> "smwddio"!
> Fyddai "thermomedr treiddio" yn cyfleu'r ystyr?
>
> Cofion
> Siân
>
>
> On 7 Medi 2010, at 10:03, Claire Richards wrote:
>
>
> Teclyn a ddefnyddir ym maes diogelwch bwyd.
>
> Mae llun un ar http://www.rapidonline.com/1/1/1023-digital-folding- 
> probe-thermometer.html
>
> Dwi wedi gweld enghreifftiau o ‘thermomedr profi” ar y we, ond dwi  
> ddim yn meddwl bod hynny’n cyfleu’r ffaith bod gan y thermomedr  
> stiliwr sy’n cael ei wthio i’r bwyd (cig, fel arfer) i wirio’r  
> tymheredd.
>
> Mae un enghraifft o ‘thermomedr stilio’ ar y we, ac yn bersonol  
> mae’n well gen i hynny.
>
> Unrhyw sylwadau / cynigion?
>
> Claire
>
> Mae Pennawd Cyf yn gwmni cyfyngedig wedi'i gofrestru yng Nghymru a  
> Lloegr o dan y rhif cofrestru 4276774, a chyfeiriad y swyddfa  
> gofrestredig yw 53 Heol yr Orsaf, Ystum Taf, Caerdydd, CF14 2FB.
>
> Pennawd Cyf is a limited company registered in England and Wales  
> under the number 4276774, and the address of the registered office  
> is 53 Station Road, Llandaff North, Cardiff, CF14 2FB.
>
>
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG - www.avg.com
> Version: 9.0.851 / Virus Database: 271.1.1/3117 - Release Date:  
> 09/06/10 19:34:00
>