Dwi wastad wedi cymryd bod gan y gair ‘stilio’ yn yr
ymadrodd ‘holi a stilio’ yr un tarddiad ā’r
Saesneg ‘to probe’, fel ‘to
probe someone about something’.
‘(surgical) probe’
yw ystyr ‘stiliwr’ (mae yn GPC, GyrA a Chysgeir), hynny yw,
rhywbeth a ddefnyddid/ddefnyddir i chwilio yn y corff – “Any
of numerous instruments used for exploring wounds, sinus tracts, ducts, and
hollow organs…”, chwedl Geiriadur Rhydychen.
Claire
From: Discussion
of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of David
Bullock
Sent: 07 September 2010 10:42
To: [log in to unmask]
Subject: RE: probe thermometer
Dim ond yn yr ymadrodd ‘holi a stilio’ y clywes i
‘stilio’ am wn i, ac yn ōl GPC, ‘holi, busnesa’ yw
ystyr ‘stilio’, nid procio neu dyllu neu dreiddio.
Felly, ydy’r enghraifft yma o ‘thermomedr
stilio’ yn gynnig lle mae rhywun wedi meddwl iddo’i hunan, beth
yw’r gair Cymraeg am ‘probing’? O ie, ‘stilio’
fel yn ‘holi a stilio’, heb sylweddoli mai ‘thermomedr
holi’, ‘thermomedr busnesa’ yw’r ystyr mewn gwirionedd?
Cofiwch, dwi ddim yn dweud bod rhaid ceisio atal ystyr geiriau
rhag newid (fel yr aeth tanwydd i olygu petrol a disel yn hytrach na choed
tān); dim ond ei bod yn well os ydyn ni’n deall o ble mae’r pethau
yma wedi dod.
From: Discussion
of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Siān
Roberts
Sent: 07 Medi 2010 10:10
To: [log in to unmask]
Subject: Re: probe thermometer
Helo Claire
Dw i ddim yn gyfarwydd ā'r gair
"stilio" - dim ond "stilo" am "smwddio"!
Fyddai "thermomedr treiddio" yn
cyfleu'r ystyr?
Cofion
Siān
On 7 Medi 2010, at 10:03, Claire Richards
wrote:
Teclyn a ddefnyddir ym maes diogelwch bwyd.
Dwi wedi gweld enghreifftiau o ‘thermomedr profi” ar y
we, ond dwi ddim yn meddwl bod hynny’n cyfleu’r ffaith bod gan y
thermomedr stiliwr sy’n cael ei wthio i’r bwyd (cig, fel arfer) i
wirio’r tymheredd.
Mae un enghraifft o ‘thermomedr stilio’ ar y we, ac yn
bersonol mae’n well gen i hynny.
Unrhyw sylwadau / cynigion?
Claire
Mae Pennawd Cyf yn gwmni cyfyngedig wedi'i gofrestru yng Nghymru a
Lloegr o dan y rhif cofrestru 4276774, a chyfeiriad y swyddfa gofrestredig yw
53 Heol yr Orsaf, Ystum Taf, Caerdydd, CF14 2FB.
Pennawd Cyf is a limited company registered in England and Wales
under the number 4276774, and the address of the registered office is 53
Station Road, Llandaff North, Cardiff, CF14 2FB.
No
virus found in this incoming message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 9.0.851 / Virus Database: 271.1.1/3117 - Release Date: 09/06/10
19:34:00