Dim ond yn yr ymadrodd ‘holi a stilio’ y clywes i ‘stilio’
am wn i, ac yn ōl GPC, ‘holi, busnesa’ yw ystyr ‘stilio’,
nid procio neu dyllu neu dreiddio.
Felly, ydy’r enghraifft yma o ‘thermomedr stilio’
yn gynnig lle mae rhywun wedi meddwl iddo’i hunan, beth yw’r gair
Cymraeg am ‘probing’? O ie, ‘stilio’ fel yn ‘holi
a stilio’, heb sylweddoli mai ‘thermomedr holi’, ‘thermomedr
busnesa’ yw’r ystyr mewn gwirionedd?
Cofiwch, dwi ddim yn dweud bod rhaid ceisio atal ystyr geiriau
rhag newid (fel yr aeth tanwydd i olygu petrol a disel yn hytrach na choed tān);
dim ond ei bod yn well os ydyn ni’n deall o ble mae’r pethau yma
wedi dod.
From: Discussion of Welsh
language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Siān
Roberts
Sent: 07 Medi 2010 10:10
To: [log in to unmask]
Subject: Re: probe thermometer
Helo Claire
Dw i ddim yn gyfarwydd ā'r gair "stilio" - dim ond
"stilo" am "smwddio"!
Fyddai "thermomedr treiddio" yn cyfleu'r ystyr?
Cofion
Siān
On 7 Medi 2010, at 10:03, Claire Richards wrote:
Teclyn a ddefnyddir ym maes diogelwch bwyd.
Dwi wedi gweld enghreifftiau o ‘thermomedr profi” ar y
we, ond dwi ddim yn meddwl bod hynny’n cyfleu’r ffaith bod gan y
thermomedr stiliwr sy’n cael ei wthio i’r bwyd (cig, fel arfer) i
wirio’r tymheredd.
Mae un enghraifft o ‘thermomedr stilio’ ar y we, ac yn
bersonol mae’n well gen i hynny.
Unrhyw sylwadau / cynigion?
Claire
Mae Pennawd Cyf yn gwmni cyfyngedig wedi'i gofrestru yng Nghymru a
Lloegr o dan y rhif cofrestru 4276774, a chyfeiriad y swyddfa gofrestredig yw
53 Heol yr Orsaf, Ystum Taf, Caerdydd, CF14 2FB.
Pennawd Cyf is a limited company registered in England and Wales
under the number 4276774, and the address of the registered office is 53
Station Road, Llandaff North, Cardiff, CF14 2FB.
No virus
found in this incoming message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 9.0.851 / Virus Database: 271.1.1/3117 - Release Date: 09/06/10
19:34:00