Ar yr arwyddion ffyrdd, 'Towyn' sydd i'w weld ond tydi hyn ddim yn golygu mai hwn yw'r ffurf cywir. Yn Sir Ddinbych cwbwl wnewch chi weld yw 'Dyserth' pan na'r sillafiad mwy Cymraeg yw Diserth. Gellir gweld y sillafiad yma ym mhapur bro Y Glannau hefyd.

O ran Towyn a Tywyn, mae'r ddau yn gywir dwi'n meddwl, ond bosib bod mwy o ffafriaeth dros Towyn oherwydd ei ddefnydd ehangach. Arwyddion ffyrdd, mapiau arolwg ordnans etc. Mae'r cyngor tref/pentref yn defnyddio Towyn fel yr enw Saesneg a Tywyn am yr enw Cymraeg, ond dwi'n wyliadwrus o gyrff gyhoeddus sydd yn aml iawn yn derbyn cyngor cyfieithwyr(!) a nid thrigolion lleol Cymreig.

Yn ôl 'Dictionary of The Place-names of Wales' Tywyn sy'n dod gyntaf gyda Towyn fel enw amrwyiol. Tua 1700 yr enw swyddogol a chofnodwyd yw Tywyn, yn 1758 Towyn, 1795 Towyn Abergelau - i'w wahaniaethu rhwng y Tywyn arall.

Mae Tywyn arall yn sir Conwy, sef yn Deganwy, Cyffordd Llandudno. Tywyn yw hwn heb amheuaeth. Dwi ar ddallt fod 'Towyn' arall i lawr Pen Llŷn.

Yn bersonol, byswn i'n defnyddio 'Towyn' dim ond oherwydd ei ddefnydd blaenorol, nid chywirdeb.


Huw Waters, o Abergele




Date: Thu, 16 Sep 2010 13:38:51 +0100
From: [log in to unmask]
Subject: Re: TOWYN neu TYWYN
To: [log in to unmask]

Tywyn yn ôl y Gazeteer.
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]">Nici Sion
To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Thursday, September 16, 2010 1:34 PM
Subject: Re: TOWYN neu TYWYN

Dw’n i’m. Ar wefan CBSC mae Towyn Abergele yn cael ei gyfieithu i Tywyn ond yn ôl pob sôn dim ond y Towyn Saesneg sydd yn ymddangos ar yr arwyddion ffyrdd!


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of CATRIN ALUN
Sent: 16 September 2010 13:31
To: [log in to unmask]
Subject: Re: TOWYN neu TYWYN

 

O'n i'n meddwl eu bod nhw - tybed ydy'r Sir yn trio gwahaniaethu drwy beidio defnyddio 'y' yn yr un ger Abergele?

 


From: Nici Sion <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
Sent: Thursday, 16 September, 2010 13:22:25
Subject: Re: TOWYN neu TYWYN

Mae’r ddau yn sir Conwy.

 


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of CATRIN ALUN
Sent: 16 September 2010 13:20
To: [log in to unmask]
Subject: Re: TOWYN neu TYWYN

 

Mae 'na 'Tywyn' yn Neganwy hefyd - dyna lle ges i ngeni! 

Ydy Tywyn Abergele yn Sir Conwy, neu Tywyn, Deganwy? (neu'r ddau - dwi ddim yn siwr lle mae'r ffin!)

 

Catrin

 


From: Nici Sion <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
Sent: Thursday, 16 September, 2010 13:16:20
Subject: Re: TOWYN neu TYWYN

Dyna o’n i’n feddwl tan i bobl gwestiynu pam mod o wedi ei gyfieithu i Tywyn. 

 

Siawns bod angen newid yr arwyddion ffyrdd i adlewyrchu’r enw Cymraeg?

 

Wedi edrych ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac mae nhw’n cyfieithu Towyn i Tywyn, felly dwi’n meddwl y gwna i gadw at ddefnyddio’r enw Cymraeg.

 


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 16 September 2010 12:38
To: [log in to unmask]
Subject: Re: TOWYN neu TYWYN

 

Ie, ac roedd hwnnw'n arfer cael ei seisnigeiddio i Towyn ar arwyddion erstalwm hefyd. Tywyn ydi'r ffurf Gymraeg, siawns.

----- Original Message -----

From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]">Ifan Glyn Jones

To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]

Sent: Thursday, September 16, 2010 12:08 PM

Subject: Re: TOWYN neu TYWYN

 

Towyn sydd ar arwyddion ffyrdd Sir Ddinbych.

Mae Tywyn yng ngwaelodion Gwynedd, ger y Bermo neu Abermaw

Carys

 

In a message dated 16/09/2010 10:36:42 GMT Standard Time, [log in to unmask] writes:

Tywyn mae gwefan Enwau Cymru http://www.e-gymraeg.org/enwaucymru/ yn ei roi fel yr enw Cymraeg.  A fyddai’n syniad cysylltu gyda Chyngor Sir Ddinbych i ofyn beth yw polisi’r Cyngor?

 

Claire

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Nici Sion
Sent: 16 September 2010 11:33
To: [log in to unmask]
Subject: TOWYN neu TYWYN

 

Cwestiwn twp efallai ond mae dadl wedi codi yn y swyddfa ynghylch Cyfieithu Towyn ger Abergele i Tywyn.  Dydw i ddim yn gyfarwydd â’r ardal ond mae sawl un yn dweud mai Towyn yn unig sydd ar yr arwyddion ffordd a bod yn rhaid cadw at hyn. Tywyn, Abergele faswn i’n ddweud.

 

Ydi hi’n anghywir dweud Tywyn, Abergele.  Oes yn rhaid glynu wrth y Saesneg?

 

Diolch ymlaen llaw

 

Nici

 

 

 

 

 

 

Nici Siôn

Cyfieithydd a Swyddog Cyswllt Iaith Cymraeg /

Translator and Welsh Language Liaison Officer

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru/

North Wales Fire and Rescue Service

[log in to unmask]

 

Ffôn / Telephone: 01745 535284

 

Ffôn Symudol / Mobile Phone: 07920084618

 

Ffacs / Fax: 01745 535296

 

Am archwiliad diogelwch tân yn y cartref yn rhad ac am ddim, ffoniwch 0800 169 1234, e-bostiwch [log in to unmask] neu ymwelwch â www.gwastan-gogcymru.org.uk.

 

For a free home fire safety check, please call 0800 169 1234, e-mail [log in to unmask] or visit www.nwales-fireservice.org.uk.

 

 

**********************************************************************
Cyfrinachedd: Mae’r neges e-bost hon ac unrhyw ffeiliau a
drosglwyddir gyda hi, yn breifat ac fe allent fod yn cynnwys gwybodaeth
sy’n gyfrinachol neu’n gyfreithiol-freintiedig. Os byddwch yn derbyn
y neges hon trwy gamgymeriad, a fyddech mor garedig â rhoi
gwybod inni a chael gwared arni o’ch system ar unwaith.

Ymwadiad: Fe allai e-bostio trwy’r We fod yn agored i oedi,
rhyng-gipio, peidio â chyrraedd, neu newidiadau heb eu hawdurdodi.
Felly, nid yw’r wybodaeth a fynegir yn y neges hon yn cael cefnogaeth
GTAGC oni bai fod cynrychiolydd awdurdodedig, yn annibynnol
ar yr e-bost hwn, yn hysbysu ynghylch hynny. Ni ddylid gweithredu
o ddibynnu ar gynnwys yr e-bost hwn yn unig.

Monitro: Bydd GTAGC yn monitro cynnwys e-byst at ddiben
atal neu ddarganfod troseddau, a hynny er mwyn sicrhau diogelwch
ein systemau cyfrifiadurol a gwirio cydymffurfiad â’n polisïau.

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
Parc Busnes Llanelwy, Sir Ddinbych. LL17 0JJ

**********************************************************************
Confidentiality: This email and any files transmitted with it, are
private and may contain confidential or legally privileged information.
If you receive this message in error, please notify us and then
immediately remove it from your system.

Disclaimer: Internet email may be subject to delays, interception,
non-delivery or unauthorised alterations. Therefore, information
expressed in this message is not endorsed by NWFRS unless
otherwise notified by an authorised representative independent
of this email. No action should be taken in reliance on the
content of this email.

Monitoring: NWFRS monitors email traffic content for the purposes
of the prevention and detection of crime, ensuring the security of
our computer systems and checking compliance with our policies

North Wales Fire and Rescue Service
St Asaph Business Park , Denbighshire. LL17 0JJ
**********************************************************************