Print

Print


Diolch yn fawr IAWN, Rhian.

 

"MAE cyfrol 4 gen i, ond yn "Geirfa'r Gegin 'roeddwn i wedi edrych, heb
feddwl am fwyd anifeiliaid.  Dyma'r hyn sydd yng nghyfrol 4:

Yr adeilad y ceid ynddo'r crochan (pair) i ferwi bwyd moch, golch ayyb, ty
boiler (Ardudwy).  Ar lafar yng Ngheredigion"

 

A chofnodion Cyngor Ceredigion yw'r rhain, felly caiff aros fel y mae, ond
fel dau air.

 

Enghraifft arbennig o sut mae'r Cylch yn gweithio!

 

A dyma Bruce yn gweiddi "Helo!" o ddrws y ffrynt - efallai byddwn i wedi
cael yr un ateb ganddo fo!

 

Ann

  _____  

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Rhian Jones
Sent: 28 September 2010 15:53
To: [log in to unmask]
Subject: Re: typair

 

Dw i ddim yn siwr os ydi hyn o ryw help i chi Ann.

'Cegin foch - Yr ystafell neu'r adeilad ynghlwm wrth y ty fferm lle berwid
bwyd moch, briws (Dyffryn Clwyd). Yma hefyd, yn aml, y cedwid mawn yn barod
wrth law. Ar lafar yn Llyn.'

(Cydymaith Byd Amaeth - Cyfrol 1) Does gen i ddim copi o gyfrol 4 gen i ofn
i edrych os ydi 'ty pair' ynddo fo. 

Rhian

 

In a message dated 28/09/2010 15:20:49 GMT Daylight Time,
[log in to unmask] writes:

Demolition of leanto and typair

 

Dyma'r cyd-destun, mewn cofnodion cynllunio.  Mae arna i eisiau deall y
Gymraeg er mwyn troi'r cyfan yn Gymraeg.  Yn y cyd-destun, mae'n annhebyg of
fod "ty^ pa^r".  Ydw i'n iawn wrth ddyfalu mae "cauldron house" yw hyn, sef
lle byddid yn berwi'r dillad yn yr hen ddyddiau? Ydy'r term yn un cyfarwydd,
ac un y dylwn gadw ato (dau air efallai?)  'Rwy'n meddwl mai "wash-house" y
byddwn i'n ei ddweud yn Saeneg, ond 'rwy'n methu dod o hyd i hwnnw yng
Ngeiriadur yr Academi, ac mae Bruce allan!

 

Diolch am syniadau,

 

Ann