Print

Print


Neges ddwyieithog yw hon / This is a bilingual message
Gweler isod ar gyfer y fersiwn Saesneg / Please see below for English version 
Gweithio gyda'r Cyfnod Sylfaen: rhaglen hyfforddi ar gyfer staff amgueddfeydd ac archifau 
Bydd y cwrs hyfforddi dau ddiwrnod hwn yn rhoi cyflwyniad i'r Cyfnod Sylfaen i'r cyfranogwyr, gyda phwyslais penodol ar sut y gall gweithgareddau o fewn yr amgueddfa neu'r gwasanaeth archifau roi cefnogaeth bellach i'r maes hwn o fewn y cwricwlwm.
Darperir yr hyfforddiant ar ffurf cyfuniad o gyflwyniadau, gweithdai cyfranogol a gweithgareddau. 

Fe fydd y cwrs yma yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg 

O.N. Mae'n bwysig i'r cyfranogwyr fynychu'r ddau ddiwrnod hyfforddi, gan y bydd Diwrnod 2 yn adeiladu ar y gwaith a wnaed yn Niwrnod 1.
Lleoliad y Digwyddiad: 
Ystafell Hyfforddi - Mudiad Ysgolion Meithrin - Aberystwyth 
Dyddiadau'r Digwyddiad: 
Diwrnod 1: Dydd Mawrth 2 Tachwedd 2010 
Diwrnod 2: Dydd Mawrth 16 Tachwedd 2010 
Amcanion 
Yn ystod y cwrs caiff y cyfranogwyr y cyfle i: 
*	Ddeall athroniaeth y Cyfnod Sylfaen a Meysydd Dysgu 
*	Ymchwilio drwy weithgareddau a thrafodaethau dan arweiniad sut i wneud eu hamgueddfa neu archif yn fwy cydnaws â'r Cyfnod Sylfaen 
*	Dewis thema a datblygu gweithgareddau perthnasol i gefnogi'r Cyfnod Sylfaen. 
Yn ystod y gweithdy ceir cyflwyniadau, arddangosiadau, gweithgareddau a sesiynau trafod, a bydd yna ddigon o gyfleoedd dros y ddau ddiwrnod i ofyn cwestiynau penodol am wasanaethau unigol.
Pwy ddylai fynychu'r cwrs? 
*	Staff neu wirfoddolwyr amgueddfeydd ac archifau sy'n gyfrifol am wasanaethau plant, neu sy'n dymuno datblygu'r cyfrifoldeb hwnnw. Swyddogion Addysg amgueddfeydd a gwasanaethau archifau. 
Hyfforddwr 
Ceri Williams - Cydlynydd Prosiect Asesiad Y Cyfnod Sylfaen 
Archebu lle: 
I archebu lle, cysylltwch â: Gethin Lloyd Evans yn CyMAL ar 0300 062 2106 neu e-bost [log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]>  
Working with the Foundation Phase: a training programme for museum and archive staff 
This 2-day training course will provide participants with an introduction to the Foundation Phase, with a specific focus on how activities within the museum or archive service can further support this area of the curriculum.
Training will be a mix of presentations, participatory workshops and activities. 

This course will be delivered through the medium of Welsh 

N.B. Please note that it is important for delegates to attend both training days, as Day 2 builds on the work done in Day 1.
Location of Event: 
The Training Suite - Mudiad Ysgolion Meithrin - Aberystwyth 
Dates of Event: 
Day 1: Tuesday 2 November 2010 
Day 2: Tuesday 16 November 2010 
Objectives 
The course will provide participants with the opportunity to: 
*	Understand the philosophy of the Foundation Phase and Areas of Learning 
*	Explore through guided discussion and activities how to make their museum or archive a more Foundation Phase orientated environment 
*	Choose a theme and develop relevant activities to support the Foundation Phase. 
The workshop will comprise of presentations, demonstrations, activities and discussion sessions, and there will be ample opportunity throughout the two days to ask specific questions about individual services.
Who should attend? 
*	Museum and archive staff or volunteers who have, or wish to develop, responsibility for children's services. Museum and archive services' Education Officers. 
Trainer 
Ceri Williams - Foundation Phase Project Assessment Co-ordinator 
Booking:
To book a place, please contact: Gethin Lloyd Evans at CyMAL on 0300 062 2106 or e-mail [log in to unmask]




Gethin Evans
Access, Learning & ICT Assistant /  Cynorthwy-ydd Mynediad, Dysgu a TGCh
Welsh Assembly Government / Llywodraeth Cynulliad Cymru   
CyMAL: Museums Archives and Libraries Wales / Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd
 Welsh Assembly Government, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UR
fax: 0300 062 2052   * 0300 062 2106   
*  [log in to unmask]  

Hapus i gyfathrebu'n Saesneg neu yn y Gymraeg/Happy to communicate in English or Welsh