Print

Print


Diolch Sylvia

Yn y Porth Termau, mae 'na bethau fel:

conservation of energy cadwraeth egni eb
Y Termiadur

conversion of energy trawsnewidiad ynni eg
Y Termiadur

Sy'n gwneud pethau dipyn bach yn ddryslyd i bobl anwyddonol fel fi!

SiânOn 18 Awst 2010, at 10:36, Jones,Sylvia Prys wrote:

> Sian Roberts wrote:
>> "An average school lunch should provide around 30% of the total  
>> daily energy requirement."
>> "Energy is most commonly expressed in "calories" but the actual  
>> unit is a kilocalorie."
>> Eisiau gwybod y gwahaniaeth rhwng "ynni" ac "egni" rydw i.  Fe  
>> wnes i Gwglo hyn a chael hyd i drafodaeth ddigon difyr ar maes-e  
>> slawer dydd:
>> "Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd - Maw Tach 28, 2006 11:33 am:
>> Ar S4C neithiwr... "gêm y Gweilch yng Nghwpan Egni EDF yn fyw ar  
>> S4C".
>> Yyyym, Sbrec, cwmni ynni yw EDF. Peth bach, mi wn, ond mae wedi  
>> nghythruddo i ta beth.
>> Chwadan: Maw Tach 28, 2006 12:19 pm
>> Be di'r gwahaniaeth rhwng ynni ac egni? On i'n meddwl mai "energy"  
>> oedd y cyfieithiad o'r ddau?
>> Griff-Waunfach » Maw Tach 28, 2006 12:40 pm
>> Ie ond mae egni yn perthyn i berson, lle mae ynni yn perthyn i  
>> rhywbeth amhersonol e.e. trydan, nwy a.y.y.b. Gall egni hefyd  
>> meddwl drive verve vigour a vitality
>>  sian » Maw Tach 28, 2006 12:51 pm
>> Wir? Lle welaist ti hynny? Dyw hynny ddim yn amlwg o'r Briws:  
>> energy: egni, ynni, nerth, grym, grymuster, cryfder; Physics:  
>> ynni, egni (sy'n awgrymu mai ynni sy'n cael ei ddefnyddio'n bennaf  
>> yn y cyd-destun hwn ond bod egni'n iawn hefyd); binding energy =  
>> egni uno; energy flow = llilf egni etc. Mae Geiriadur y Brifysgol  
>> yn awgrymu run peth - bod modd defnyddio'r naill neu'r llall i  
>> gyfeirio at bobl a phethau.
>> Griff-Waunfach » Maw Tach 28, 2006 12:56 pm
>> Dyna beth oedd fy athro gwyddoniaeth wastad yn dweud, ...
>> Ynni sy'n cael ei defnyddio yn ystyr cwmniau fel hyn, ynni  
>> niwclear, ynni nwy a.y.y.b
>> dafydd » Maw Tach 28, 2006 1:15 pm
>> Efallai mai confensiwn sydd wedi datblygu yw hyn, ond mae ynni yn  
>> rywbeth haniaethol wrth drafod y modd o gynhyrchu, ac egni yw'r  
>> hyn sy'n cael ei ddefnyddio. Mi all 'nwy' fod yn ynni, ond mae'n  
>> cael ei losgi i greu egni (egni gwres yn cynhesu dŵr er  
>> enghraifft)."
>> Difyr 'te? I gyd mewn llai na dwy awr!
>> Beth bynnag, yn ôl y drafodaeth yna, ydw i'n iawn i ddweud mai  
>> "egni" yw'r gair dwi'n chwilio amdano fan hyn?
>> Diolch
>> Siân
>
> Wn i ddim a oedd unrhyw wahaniaeth ystyr i gychwyn ond dw i'n  
> gwybod bod y criw Safoni Termau ym Mangor wedi ffafrio'r defnydd  
> o'r gair 'egni' ar draul 'ynni' oherwydd bod modd creu geiriau  
> eraill ohono - egniol etc. maen prawf pwysig wrth ddewis term  
> 'safonol'. Ond gwelson nhw fod ynni wedi ennill ei blwyf yng nghyd- 
> destun 'ynni niwclear' etc. Efallai gallai Delyth roi mwy o  
> eglurhad i ti ond mae hi yn Nulyn mewn cynhadledd.  Am ryw reswm  
> byddwn i'n dweud 'plentyn llawn egni' - wn i ddim pam. Mae'n siwr y  
> bydd gan y gwyddonwyr yn ein plith atebion llawer gwell i ti.
>
> -- 
> Dr Sylvia Prys Jones    01248 382036  <[log in to unmask]>
>
> Pennaeth yr Uned Gyfieithu/Head of Translation Unit
> Canolfan Bedwyr
> Prifysgol Bangor/Bangor University