Print

Print


Sian Roberts wrote:
> "An average school lunch should provide around 30% of the total daily energy requirement."
> "Energy is most commonly expressed in "calories" but the actual unit is a kilocalorie."
> 
> Eisiau gwybod y gwahaniaeth rhwng "ynni" ac "egni" rydw i.  Fe wnes i Gwglo hyn a chael hyd i drafodaeth ddigon difyr ar maes-e slawer dydd:
> 
> "Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd - Maw Tach 28, 2006 11:33 am:
> Ar S4C neithiwr... "gêm y Gweilch yng Nghwpan Egni EDF yn fyw ar S4C".
> Yyyym, Sbrec, cwmni ynni yw EDF. Peth bach, mi wn, ond mae wedi nghythruddo i ta beth.
> 
> Chwadan: Maw Tach 28, 2006 12:19 pm
> Be di'r gwahaniaeth rhwng ynni ac egni? On i'n meddwl mai "energy" oedd y cyfieithiad o'r ddau?
> 
> Griff-Waunfach » Maw Tach 28, 2006 12:40 pm
> Ie ond mae egni yn perthyn i berson, lle mae ynni yn perthyn i rhywbeth amhersonol e.e. trydan, nwy a.y.y.b. Gall egni hefyd meddwl drive verve vigour a vitality
> 
>  sian » Maw Tach 28, 2006 12:51 pm
> Wir? Lle welaist ti hynny? 
> Dyw hynny ddim yn amlwg o'r Briws: 
> energy: egni, ynni, nerth, grym, grymuster, cryfder; Physics: ynni, egni (sy'n awgrymu mai ynni sy'n cael ei ddefnyddio'n bennaf yn y cyd-destun hwn ond bod egni'n iawn hefyd); binding energy = egni uno; energy flow = llilf egni etc. 
> Mae Geiriadur y Brifysgol yn awgrymu run peth - bod modd defnyddio'r naill neu'r llall i gyfeirio at bobl a phethau.
> 
> Griff-Waunfach » Maw Tach 28, 2006 12:56 pm
> Dyna beth oedd fy athro gwyddoniaeth wastad yn dweud, ...
> Ynni sy'n cael ei defnyddio yn ystyr cwmniau fel hyn, ynni niwclear, ynni nwy a.y.y.b
> 
> dafydd » Maw Tach 28, 2006 1:15 pm
> Efallai mai confensiwn sydd wedi datblygu yw hyn, ond mae ynni yn rywbeth haniaethol wrth drafod y modd o gynhyrchu, ac egni yw'r hyn sy'n cael ei ddefnyddio. Mi all 'nwy' fod yn ynni, ond mae'n cael ei losgi i greu egni (egni gwres yn cynhesu dŵr er enghraifft)."
> 
> Difyr 'te? I gyd mewn llai na dwy awr!
> Beth bynnag, yn ôl y drafodaeth yna, ydw i'n iawn i ddweud mai "egni" yw'r gair dwi'n chwilio amdano fan hyn?
> 
> Diolch
> 
> Siân

Wn i ddim a oedd unrhyw wahaniaeth ystyr i gychwyn ond dw i'n gwybod bod 
y criw Safoni Termau ym Mangor wedi ffafrio'r defnydd o'r gair 'egni' ar 
draul 'ynni' oherwydd bod modd creu geiriau eraill ohono - egniol etc. 
maen prawf pwysig wrth ddewis term 'safonol'. Ond gwelson nhw fod ynni 
wedi ennill ei blwyf yng nghyd-destun 'ynni niwclear' etc. Efallai 
gallai Delyth roi mwy o eglurhad i ti ond mae hi yn Nulyn mewn 
cynhadledd.  Am ryw reswm byddwn i'n dweud 'plentyn llawn egni' - wn i 
ddim pam. Mae'n siwr y bydd gan y gwyddonwyr yn ein plith atebion llawer 
gwell i ti.

-- 
Dr Sylvia Prys Jones    01248 382036  <[log in to unmask]>

Pennaeth yr Uned Gyfieithu/Head of Translation Unit
Canolfan Bedwyr
Prifysgol Bangor/Bangor University