Un peth - sawl darllenydd fyddai'n deall beth yw 'arae' heb weld y Saesneg? Dyw e ddim yn air cyfarwydd i mi - ody'r 'array' yma yn golygu rhywbeth mwy na 'rhes', 'cyfres' neu 'set'? Cwestiwn arall - mae didolnod ar yr ail 'a' yng Ngeiriadur yr Academi ac acen ddyrchafedig arni yn argraffiad cyntaf GPC - p'un sy'n iawn - ynteu oes modd dadlau'r naill ffordd neu'r llall? _____ Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Ann Corkett Anfonwyd/Sent: 12 Awst 2010 19:08 At/To: [log in to unmask] Pwnc/Subject: Re: Tidal Array 'Rwyf wedi defnyddio'r cyfieithiad isod, a Bruce yn cytuno iddo! Installation of a ground mounted array of solar pv panels Gosod arae o baneli ffotofoltaidd (paneli haul) ar lefel y llawr Ann _____ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Saunders, Tim Sent: 12 August 2010 11:05 To: [log in to unmask] Subject: Re: Tidal Array Alla i ddim meddwl am reswm pam na fyddai 'arae' yn dderbyniol, ond os oes cynsail ar gael yn y maes penodol dan sylw hwyrach fe fyddai'n well dilynn hwnnw. Yn iach, Tim Tim Saunders Cyfieithydd Translator Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Rhondda Cynon Taf County Borough Council _____ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Alison Reed Sent: 12 August 2010 10:50 To: [log in to unmask] Subject: Tidal Array The Tidal Array will consist of 10 tidal stream generating devices which will be fully submerged on the seabed.. Mae TC yn cynnig "Rhesaid o baneli solar" am "Solar Array". Ond beth fyddai "Tidal Array Project"? Dwi'n cymryd nad yw'r gair "Arae" yn dderbyniol yn y cyd-destun hwn? This transmission is intended for the named addressee(s) only and may contain sensitive or protectively marked material up to RESTRICTED and should be handled accordingly. Unless you are the named addressee (or authorised to receive it for the addressee) you may not copy or use it, or disclose it to anyone else. If you have received this transmission in error please notify the sender immediately. All traffic including GCSx may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation For the full disclaimer please access <http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer> http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer Mae'r neges ar gyfer y person(au) a enwyd yn unig a gall gynnwys deunydd sensitif neu ddeunydd sy wedi'i farcio hyd at 'CYFYNGEDIG' a dylid ei thrin yn unol a hynny. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os nad oes gyda chi'r awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch chi ddim ei chopio neu'i defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os ydych wedi derbyn y neges ar gam a wnewch roi gwybod i'r sawl sy wedi anfon y neges ar unwaith. Mae modd cofnodi a/neu fonitro holl negeseuon GCSX yn unol a'r ddeddfwriaeth berthnasol. I weld yr ymwadiad llawn ewch i http:// <http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad> www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad