Print

Print


Mae llyfryn Cymdeithas Edward Llwyd yn rhoi:
 
Squatina Squatina - monkfish/angel fish - maelgi
 
Lophius piscatorius - angler - cythraul y môr.
 
Dydi "môr lyffant" (sic - morlyffant, siawns?) ddim yn ymddangos, ond mae "llyffant môr" = bull rout - Myoxocephalus scorpius.
 
Falle mai cynffon cythraul y môr sy yma felly!
 
Geraint
 
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Claire Richards
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Thursday, July 22, 2010 9:54 AM
Subject: ATB/RE: monkfish tail[Spam score: 8%][Scanned]

‘maelgi’ yw ‘monkfish’ ar restr enwau pysgod môr Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac ar wefan y Gronfa Data Genedlaethol, gyda’r nodyn ‘Bwydlenni’.

 

 Claire

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Siân Roberts
Sent: 22 July 2010 09:15
To: [log in to unmask]
Subject: monkfish tail

 

Oes 'na rywun yn deall eu pysgod?

 

Ga i gadarnhau mai "môr lyffant" yw'r monkfish yr ydych chi'n bwyta'i gynffon?  

 

GyrA:

monkfish: (Squatina squatina): maelgi

= angler fish: môr lyffant

 

Wikipedia 

Monkfish (or Headfish) is the English name of a number of types of fish in the northwest Atlantic, most notably the species of the anglerfish genus Lophius and the angelshark genus Squatina. .... 

In Europe and North America, the texture of the tail meat of fish of the genus Lophius, is sometimes compared to lobster tail and has been alluded to as the "poor man's lobster,"

 

Felly mae'n ymddangos yn debyg mai "cynffon môr lyffant" sy'n gywir ond fe hoffwn i gael cadarnhad!

 

Diolch

 

Siân