Bore da,
Oes rhywun gwybod os oes gair Cymraeg am ‘Zorbing’?
Doeddwn i erioed wedi clywed y gair o’r blaen ond mi ydw i wrthi’n cyfieithu taflen ar gyfer gweithgareddau awyr agored ac mae ‘Zorbing’ yn un ohonynt.
Yn ôl y llun ar y daflen dyma weithgaredd lle bydd unigolyn yn mynd i mewn i swigen blastig (tebyg i belen hamster) ac yn rholio lawr bryn! Ydi mae’r enw a’r gweithgaredd yn swnio’n gwbl hurt.
Buaswn yn gwerthfawrogi unrhyw gynigion!
Diolch
Nici
Cyfrinachedd: Mae’r neges e-bost hon ac unrhyw ffeiliau a
drosglwyddir gyda hi, yn breifat ac fe allent fod yn cynnwys gwybodaeth
sy’n gyfrinachol neu’n gyfreithiol-freintiedig. Os byddwch yn derbyn
y neges hon trwy gamgymeriad, a fyddech mor garedig â rhoi
gwybod inni a chael gwared arni o’ch system ar unwaith.
Ymwadiad: Fe allai e-bostio trwy’r We fod yn agored i oedi,
rhyng-gipio, peidio â chyrraedd, neu newidiadau heb eu hawdurdodi.
Felly, nid yw’r wybodaeth a fynegir yn y neges hon yn cael cefnogaeth
GTAGC oni bai fod cynrychiolydd awdurdodedig, yn annibynnol
ar yr e-bost hwn, yn hysbysu ynghylch hynny. Ni ddylid gweithredu
o ddibynnu ar gynnwys yr e-bost hwn yn unig.
Monitro: Bydd GTAGC yn monitro cynnwys e-byst at ddiben
atal neu ddarganfod troseddau, a hynny er mwyn sicrhau diogelwch
ein systemau cyfrifiadurol a gwirio cydymffurfiad â’n polisïau.
Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
Parc Busnes Llanelwy, Sir Ddinbych. LL17 0JJ