Cas ydi, dwi'n cytuno, ond mae wedi'i sgwennu mor sal a bratiog fel na allasai neb ei gymryd o ddifri - diolch i'r drefn mai dyna be ydi'r gifawe efo'r cnafon hyll ma - tasan nhw'n cael gan rywun sgwennu'r peth yn gywir drostyn nhw mi fasan nhw'n fwy peryglus o lawar.

Anna

2010/7/30 Sioned Graham-Cameron <[log in to unmask]>
Mi gefais inna un tebyg iawn i hwnna (ond heb yr elfen 'cult') rai blynyddoedd yn ôl - fel rydych yn dweud - cas ofnadwy.

Sioned



On 30 Jul 2010, at 16:01, Ann Corkett wrote:

Dyma’r neges sgam casaf a gefais i erioed, yn arbennig o adnabod pobl a all fod wedi credu bod y neges wedi’i hanelu atynt.  Os anfonir at ddigon o bobl, mae neges yn bownd o ganu cloch a rhai ohonynt.

Ann

Subject: YOUR LIFE IN DANGER

 

Hey,

 

My name withheld, I am emailing to you for very important information about your life. There is secret information that has a lot to do with your life. I came across this secret accidentally.

 

There is a group of secret cult members mixed with assassins. They held a meeting on how to track your family; they planned on how to hit you first before any other person in your family. I have had a means to cover their meeting discussions on how to eliminate you, right now I have the tape and I know you would like to have this tape so that you can solve the problem before they take your life. I use to be one of them but now I decided not to allow you die this way for some reasons.

 

I have the tape and you need not to report the case to police yet, we need to arrange on how you can get the tape immediately .If you report this case to police or any security service, mind you they will not spare your life and family reply me immediately……do not try to run because they are monitoring you I know the time they planned to hit you, you need to reply me immediately……you are closely monitored!!!

 


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 30 July 2010 15:45
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Byddwch yn wyliadwrus!

 

Wedi meddwl, cnaf gwirion ar y naw ydi o - tasa unrhyw gyfieithydd yn ddigon hurt i anfon manylion ei gyfri banc heb hyd yn oed wybod be ydi'r gwaith mi ddyla fod yn llnau lloria yn hytrach na chyfieithu. Ond ma isio riportio'r bobol yma - yn achos yr enillion Loteri enfawr maen nhw'n eu gaddo, mae'n siwr bod na bobol ddigon gwirion, o weld y fath demtasiwn, i anfon eu manylion - y nef a wyr faint o bobol ddiniw sy wedi cael eu twyllo.

Anna

2010/7/30 Meinir Thomas <[log in to unmask]>

Dyma'r union e-bost ges i bore 'ma. Dylen ni riportio'r sgam? I bwy dylid ei riportio?

 

Meinir



--- On Fri, 30/7/10, Meleri Haf Hughes <[log in to unmask]> wrote:


From: Meleri Haf Hughes <[log in to unmask]>

Subject: Byddwch yn wyliadwrus!

Date: Friday, 30 July, 2010, 12:40

 

Teimlaf fod rhaid i mi dynnu eich sylw at e-bost sydd newydd fy nghyrraedd gan rywun yn gofyn i mi wneud gwaith cyfieithu iddo. Roeddwn i'n hapus i gael cynnig gwaith i ddechrau, ond wrth edrych yn fanylach ar dôn a geiriad yr e-bost, roeddwn i'n reit amheus mae'n rhaid i mi ddweud, ac yn enwedig felly gan nad oedd enw cwmni yn unman ar y neges ac mai o gyfeiriad Yahoo yr anfonwyd y neges hon.

Penderfynais 'Gwglo' fanylion y dyn hwn, ac yn wir, cefais wybod mai 'sgam' oedd yr e-bost, e-bost y mae amryw o gyfieithwyr eraill wedi'i chael yn ôl pob golwg. Mae'r anfonwr yn gofyn i chi ateb i gadarnhau eich bod chi'n derbyn y gwaith, ac yna mae yntau'n ateb yn ôl yn gofyn am fanylion eich cyfrif banc chi, i gael trosglwyddo'r taliad am eich gwaith!!

Am fwy o wybodaeth am y 'sgam', ewch i: http://www.dicecarmen.blogspot.com/

Ond dyma gopi o'r neges e-bost isod a gefais i:

Morning,
How are you doing today and can you take a translation job right now,here is the document attached with this email and let me know how much you charge per words.I want it translated from English to Welsh but you should be able to finish in 4 weeks time,awaits your mail soon.

Regards.
Dave Jorden,
160 Scotland Street
Glasgow Lanarkshire
G5 8PL
UK


Meleri Hughes