Finna wedi ei gael bore ma - y geiriau "you should be able to finish in 4 weeks time" oedd y rhain a'm trawodd i yn od.

Rhaid cyfaddedd nad oeddwn yn sylweddoli bod sgams yn targedu cyfieithwyr yn benodol!

Sioned


On 30 Jul 2010, at 12:58, CATRIN ALUN wrote:

Roeddwn innau wedi dyfalu mai sgam oedd hwn - y geiriau 'awaits your mail soon' ar y diwedd oedd y prif gliw i mi! (ynghyd ag ambell i awgrym arall yn yr arddull a'r sillafu!)
Diolch am gadarnhau f'amheuaeth.
Catrin



From: Meleri Haf Hughes <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
Sent: Friday, 30 July, 2010 12:40:41
Subject: Byddwch yn wyliadwrus!

Teimlaf fod rhaid i mi dynnu eich sylw at e-bost sydd newydd fy nghyrraedd gan rywun yn gofyn i mi wneud gwaith cyfieithu iddo. Roeddwn i'n hapus i gael cynnig gwaith i ddechrau, ond wrth edrych yn fanylach ar dôn a geiriad yr e-bost, roeddwn i'n reit amheus mae'n rhaid i mi ddweud, ac yn enwedig felly gan nad oedd enw cwmni yn unman ar y neges ac mai o gyfeiriad Yahoo yr anfonwyd y neges hon. 

Penderfynais 'Gwglo' fanylion y dyn hwn, ac yn wir, cefais wybod mai 'sgam' oedd yr e-bost, e-bost y mae amryw o gyfieithwyr eraill wedi'i chael yn ôl pob golwg. Mae'r anfonwr yn gofyn i chi ateb i gadarnhau eich bod chi'n derbyn y gwaith, ac yna mae yntau'n ateb yn ôl yn gofyn am fanylion eich cyfrif banc chi, i gael trosglwyddo'r taliad am eich gwaith!! 

Am fwy o wybodaeth am y 'sgam', ewch i: http://www.dicecarmen.blogspot.com/

Ond dyma gopi o'r neges e-bost isod a gefais i: 

Morning,
How are you doing today and can you take a translation job right now,here is the document attached with this email and let me know how much you charge per words.I want it translated from English to Welsh but you should be able to finish in 4 weeks time,awaits your mail soon.

Regards.
Dave Jorden,
160 Scotland Street
Glasgow Lanarkshire
G5 8PL
UK


Meleri Hughes