Print

Print


Roeddwn innau wedi dyfalu mai sgam oedd hwn - y geiriau 'awaits your mail soon' 
ar y diwedd oedd y prif gliw i mi! (ynghyd ag ambell i awgrym arall yn yr 
arddull a'r sillafu!)
Diolch am gadarnhau f'amheuaeth.
Catrin




________________________________
From: Meleri Haf Hughes <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
Sent: Friday, 30 July, 2010 12:40:41
Subject: Byddwch yn wyliadwrus!

Teimlaf fod rhaid i mi dynnu eich sylw at e-bost sydd newydd fy nghyrraedd gan 
rywun yn gofyn i mi wneud gwaith cyfieithu iddo. Roeddwn i'n hapus i gael cynnig 
gwaith i ddechrau, ond wrth edrych yn fanylach ar dôn a geiriad yr e-bost, 
roeddwn i'n reit amheus mae'n rhaid i mi ddweud, ac yn enwedig felly gan nad 
oedd enw cwmni yn unman ar y neges ac mai o gyfeiriad Yahoo yr anfonwyd y neges 
hon. 


Penderfynais 'Gwglo' fanylion y dyn hwn, ac yn wir, cefais wybod mai 'sgam' oedd 
yr e-bost, e-bost y mae amryw o gyfieithwyr eraill wedi'i chael yn ôl pob golwg. 
Mae'r anfonwr yn gofyn i chi ateb i gadarnhau eich bod chi'n derbyn y gwaith, ac 
yna mae yntau'n ateb yn ôl yn gofyn am fanylion eich cyfrif banc chi, i gael 
trosglwyddo'r taliad am eich gwaith!! 


Am fwy o wybodaeth am y 'sgam', ewch i: http://www.dicecarmen.blogspot.com/

Ond dyma gopi o'r neges e-bost isod a gefais i: 

Morning,
How are you doing today and can you take a translation job right now,here is the 
document attached with this email and let me know how much you charge per 
words.I want it translated from English to Welsh but you should be able to 
finish in 4 weeks time,awaits your mail soon.

Regards.
Dave Jorden,
160 Scotland Street
Glasgow Lanarkshire
G5 8PL
UK


Meleri Hughes