Mae 'na gorff o'r enw Forest Research.  Mae'n gysylltiedig â'r Comisiwn Coedwigaeth. Mae ganddo ganolfan yn Aberystwyth.

We are one of the world’s leading centres of research into woodlands and forestry.

Our aims, objectives and environmental policy

We aim to provide research services relevant to UK and international forestry interests and inform and support forestry’s contribution to UK governmental policies. Our core roles are to provide the evidence base for UK forestry practices and to support innovation.

Yn ôl TermCymru, Forest Research yw'r enw i'w ddefnyddio yn y Gymraeg hefyd, Statws 4.

Rwy wedi cyfieithu taflen sy'n cynnwys sawl cyfeiriad at Forest Research a nawr mae rhywun o'r corff ei hunan wedi dod yn ôl a dweud mai "Ymchwil Goedwig" yw'r enw maen nhw'n ei ddefnyddio.  Erbyn edrych mae 'na enghreifftiau o Ymchwil Goedwig, Ymchwil Coedwig, Ymchwil Coedwigoedd ac Ymchwil Coedwigaeth ar y we.

Rwy wedi awgrymu efallai nad yw Ymchwil Goedwig yn iawn a dyma'r ateb a gefais:
"Ymchwil Goedwig is the translation that I received when I requested a bilingual signature for my email ...so have assumed it is correct. Probably best to stick with it."  

Beth ddylwn i ei wneud?

Diolch