Print

Print


Potelaid o win, caniad o gwrw, bagiad o jips sy’n naturiol i mi.  Meddwl yn Saesneg ydi “potel o win”, “can o gwrw” &c (ond pacad [o’r Saesneg] o gnau, er hynny).  Nid yw “bar” yn cynnwys dim byd.

Bruce

 

“Potelaid o win” i minnau hefyd..

Ann


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 16 June 2010 20:43
To: [log in to unmask]
Subject: bottles, cans and bags

 

Mae gen i restr o amryw dameidiau i aros pryd a diodydd etc. Dwi'n gwbod mai efo'r terfyniad 'aid' y dylwn ddisgrifio llond rhywbeth o rywbeth, ond tybed oes yna anghysondera ...? E.e. gwydraid o win y baswn i'n ei gynnig ond mae'n swnio'n naturiol i mi son am botel o win; sachaid o flawd ond bag o tships; can o gwrw, pacad o gnau yn swnio'n iawn i mi. Ydw i'n iawn ta wedi drysu? Ella bod y petha mwy modern, y bag, y can etc yn iawn heb yr 'aid'? Dwi ddim hyd yn oed yn gwbod os ydi'r negas yma'n ddealladwy. A be am Fruit Cereal Bar? Ga i ddeud Bar? Bar o siocled faswn i'n ddeud dwi'n siwr, nid talp na dim byd arall. Mae arna i isio i'r rhestr fod yn hawdd ei deall i'r cwsmeriaid a dyna di'r peth pwysica dwi'n meddwl (diolch i'r drefn am Mini Cheddars sy'n enw brand!) Diolch ymlaen llaw

Anna