Print

Print


At ei gilydd, felly, dwi'n meddwl erbyn hyn deud 'Addewid Glasoed' - mae'n
fachog, mae'n fyr ac ella bod glasoed yn llai 'oed-gyfyngedig' na
glaslanc/llanc. Dyna dwi'n mynd i'w ddefnyddio. Diolch i chi i yd.

Anna

2010/6/3 David Bullock <[log in to unmask]>

>  Roeddwn i wastad yn meddwl mai plentyndod oedd bore oes, a dyma chi wedi
> rhoi esgus imi fynd i’r geiriadur i chwilio.
>
>
>
> A drwy lwc, ‘childhood’ yw ‘bore oes’ hefyd yn ôl Geiriadur Prifysgol
> Cymru, sydd hefyd yn cadarnhau bod ‘addewid’ yn gallu golygu ‘potensial’ ac
> nid dim ond ‘adduned’.
>
>
>
> *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] *Ar ran/On Behalf Of *anna
> gruffydd
> *Sent:* 03 Mehefin 2010 12:03
> *To:* [log in to unmask]
> *Subject:* Re: llanc/glaslanc
>
>
>
> On i'n meddwl na fedrwn i ddim defnyddio addewid yn y cyd-destun yma - bod
> rhaid iddo fod yn rhywbeth addawol (mynd yn ol GyrA ydw i). Ond os ca i
> ddefnyddio addewid, gora oll. Ydi 'bore oes' yn rhy ifanc i'w ddefnyddio am
> rywun yn ei 20au? Dwi'n hoff iawn o'r ymadrodd bore oes.
>
> Anna
>
> 2010/6/3 Bethan Jones <[log in to unmask]>
>
> Addewid yr Ifanc  neu Addewid Ifanc, gan chwarae ar y ffaith mai sôn am hen
> addewidion rydan ni fel arfer.
>
> Bethan
>
>
>
> *From:* anna gruffydd <[log in to unmask]>
>
> *Sent:* Thursday, June 03, 2010 11:55 AM
>
> *To:* [log in to unmask]
>
> *Subject:* Re: llanc/glaslanc
>
>
>
> Diolch, on i'n ama braidd - cyngerdd o'r enw The Promise of Youth sydd gen
> i ac ron i'n teimlo bod Gwyr Ifainc Addawol braidd yn glogyrnaidd a
> diddychmyg - fedar rhywun feddwl am rywbeth mwy bachog? Bore Oes Addawol
> tybed? Gweithia sgwennodd cyfansoddwyr pan oedden nhw tua 24/25 ydi cynnwys
> y cyngerdd. Diolch
>
> Anna
>
> 2010/6/3 Nia Humphreys <[log in to unmask]>
>
> Mi faswn i’n dweud deunaw oed.
>
>
>
> Nia
>
>
>
> *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of *anna gruffydd
> *Sent:* 03 June 2010 11:47
> *To:* [log in to unmask]
> *Subject:* llanc/glaslanc
>
>
>
> Pa oed mae rhywun yn peidio a bod yn llanc neu'n laslanc? Ydi 24/25 yn rhy
> hen? Diolch
>
> Anna
>
> 2008-09 Beacon Award Winner / Enillydd Gwobr Beacon 2008-09
>
> *Gwall! Dydych chi ddim wedi rhoi enw ffeil.*
>
> COLEG MENAI, FFORDD FRIDDOEDD, BANGOR, GWYNEDD, LL57 2TP.
>
> Tel.01248370125 Fax.01248370052
>
> www.menai.ac.uk
>
>
>
> Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ddogfen sydd ynghlwm yn gyfrinachol ac at sylw'r
> unigolyn y cyfeiriwyd y neges ato yn unig. Os digwydd i'r neges eich
> cyrraedd drwy gamgymeriad a fyddech gystal a chysylltu a'r person a anfonodd
> y neges a dileu'r deunydd oddi ar unrhyw gyfrifiadur ac ni ddylech gopio,
> dosbarthu na dangos y cynnwys i unrhyw un. Gall y neges gynnwys safbwyntiau
> personol nad ydynt yn safbwyntiau gan Goleg Menai, oni bai y nodwyd hynny'n
> bendant. Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am golled neu niwed a achosir
> o ganlyniad i firysau yn y meddalwedd.
>
>
>
> This email and any attachments are confidential and intended for the named
> recipient only. If it has reached you by mistake please contact the sender
> and delete the material from any computer and you should not copy,
> distribute or show the content to anyone. The contents of the message may
> contain personal views which are not the views of Coleg Menai, unless
> specifically stated. We cannot accept any liability for any loss or damage
> sustained as a result of software viruses.
>
>
>
>
> ---------------------------------------------------------------------------------------------------
> *Text inserted by Panda GP 2010:*
>
> This message has NOT been classified as spam. If it is unsolicited mail
> (spam), click on the following link to reclassify it: It is spam!<http://localhost:6083/Panda?ID=pav_13&SPAM=true&path=C:%5CUsers%5CBethan%5CAppData%5CLocal%5CPanda+Security%5CPanda+Global+Protection+2010%5CAntiSpam>
>
> ---------------------------------------------------------------------------------------------------
>
>
>
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG - www.avg.com
> Version: 9.0.829 / Virus Database: 271.1.1/2914 - Release Date: 06/02/10
> 19:25:00
>