Roeddwn i wastad yn meddwl mai plentyndod oedd bore oes, a dyma
chi wedi rhoi esgus imi fynd i’r geiriadur i chwilio.
A drwy lwc, ‘childhood’ yw ‘bore oes’ hefyd
yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru, sydd hefyd yn cadarnhau bod ‘addewid’
yn gallu golygu ‘potensial’ ac nid dim ond ‘adduned’.
From: Discussion of Welsh
language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of anna
gruffydd
Sent: 03 Mehefin 2010 12:03
To: [log in to unmask]
Subject: Re: llanc/glaslanc
On i'n meddwl na fedrwn i ddim
defnyddio addewid yn y cyd-destun yma - bod rhaid iddo fod yn rhywbeth addawol
(mynd yn ol GyrA ydw i). Ond os ca i ddefnyddio addewid, gora oll. Ydi 'bore
oes' yn rhy ifanc i'w ddefnyddio am rywun yn ei 20au? Dwi'n hoff iawn o'r
ymadrodd bore oes.
Anna
2010/6/3 Bethan Jones <[log in to unmask]>
Addewid
yr Ifanc neu Addewid Ifanc, gan chwarae ar y ffaith mai sôn am hen
addewidion rydan ni fel arfer.
Bethan
From: [log in to unmask]">anna gruffydd
Sent: Thursday, June 03,
2010 11:55 AM
Subject: Re: llanc/glaslanc
Diolch, on i'n ama braidd -
cyngerdd o'r enw The Promise of Youth sydd gen i ac ron i'n teimlo bod Gwyr
Ifainc Addawol braidd yn glogyrnaidd a diddychmyg - fedar rhywun feddwl am
rywbeth mwy bachog? Bore Oes Addawol tybed? Gweithia sgwennodd cyfansoddwyr pan
oedden nhw tua 24/25 ydi cynnwys y cyngerdd. Diolch
Anna
2010/6/3 Nia Humphreys <[log in to unmask]>
Mi faswn i’n dweud deunaw oed.
Nia
From: Discussion of Welsh language technical terminology
and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna
gruffydd
Sent: 03 June 2010 11:47
To: [log in to unmask]
Subject: llanc/glaslanc
Pa oed mae rhywun yn peidio a bod yn llanc neu'n laslanc? Ydi 24/25
yn rhy hen? Diolch
Anna
2008-09
Beacon Award Winner / Enillydd Gwobr Beacon 2008-09
Gwall! Dydych chi
ddim wedi rhoi enw ffeil.
COLEG
MENAI, FFORDD FRIDDOEDD, BANGOR, GWYNEDD, LL57 2TP.
Tel.01248370125
Fax.01248370052
Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ddogfen sydd ynghlwm yn
gyfrinachol ac at sylw'r unigolyn y cyfeiriwyd y neges ato yn unig. Os digwydd
i'r neges eich cyrraedd drwy gamgymeriad a fyddech gystal a chysylltu a'r
person a anfonodd y neges a dileu'r deunydd oddi ar unrhyw gyfrifiadur ac ni
ddylech gopio, dosbarthu na dangos y cynnwys i unrhyw un. Gall y neges gynnwys
safbwyntiau personol nad ydynt yn safbwyntiau gan Goleg Menai, oni bai y nodwyd
hynny'n bendant. Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am golled neu niwed a
achosir o ganlyniad i firysau yn y meddalwedd.
This email and any attachments are confidential and intended for
the named recipient only. If it has reached you by mistake please contact the
sender and delete the material from any computer and you should not copy,
distribute or show the content to anyone. The contents of the message may
contain personal views which are not the views of Coleg Menai, unless specifically
stated. We cannot accept any liability for any loss or damage sustained as a
result of software viruses.
---------------------------------------------------------------------------------------------------
Text inserted by Panda GP 2010:
This message has NOT been classified as spam. If it is unsolicited mail (spam),
click on the following link to reclassify it: It is spam!
---------------------------------------------------------------------------------------------------
No virus
found in this incoming message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 9.0.829 / Virus Database: 271.1.1/2914 - Release Date: 06/02/10
19:25:00