Mae hynny'n bosib Claire - diolch. Ond ystyr syml iawn sydd i 're-parent', sef bod yn rhieni sy'n mabwysiadu plentyn. Roedd defnyddio 'newydd' yn gweithio y tro cynta' y daeth y term yn y ddogfen, ond dydy o ddim yn gweithio fan hyn. Dwi'n meddwl mai dy ateb di sy'n mynd i weithio orau - dyna sy' gen i ar y funud efo fy nhri marc cwestiwn arferol (arwydd i mi fynd nol i ail-edrych ar rywbeth ar y diwedd!!). Diolch! Catrin ________________________________ From: Claire Richards <[log in to unmask]> To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, 15 June, 2010 9:18:10 Subject: Re: Re-parent Fyddai modd dechrau o’r ferf ‘to parent’? Dwi’n cymryd bod y ferf yn golygu nid dim ond magu plant, ond magu plant mewn ffordd sy’n llesol iddyn nhw - yn enwedig o gofio bod yna’r fath beth â‘parenting classes’lle mae rhywun yn dysgu sut i wneud hynny, dybiwn i. Os felly, a yw ‘to re-parent’ yn golygu magu plant nid yn unig mewn ffordd sy’n llesol i’r plant, ond hefyd gan ddadwneud y drwg a wnaethpwyd gan y ffordd niweidiol mae’r plant wedi cael eu magu hyd yma. Gan fod ‘dosbarthiadau rhianta’ yn bod, onid ellir defnyddio ‘ail-rianta’ a ‘rhianta therapiwtig’? Claire From:Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of CATRIN ALUN Sent: 14 June 2010 18:16 To: [log in to unmask] Subject: Re: Re-parent O diar - mae'r enghraifft yma'n llawer anoddach! It also believes that the concept of ‘reparenting’ or ‘therapeutic parenting’ of adopted children needs to be accepted and underpinned by the legislation and guidance which directs the work of Adoption Agencies and Support Agencies. Unrhyw awgrym? Diolch ________________________________ From:Geraint Lovgreen <[log in to unmask]> To: [log in to unmask] Sent: Monday, 14 June, 2010 12:18:23 Subject: Re: Re-parent ai 'gosod plentyn gyda rhieni newydd' ydi'r ystyr? > >> >----- >Original Message ----- >> >From:CATRIN ALUN >> >To:[log in to unmask] >> >Sent:Monday, June 14, >2010 11:35 AM >> >Subject:Re-parent >> > >> >> > Cyd-destun >mabwysiadu: >> > >> > the demands >of re-parenting a child >> > >> >Catrin