On i'n meddwl na fedrwn i ddim defnyddio addewid yn y cyd-destun yma - bod rhaid iddo fod yn rhywbeth addawol (mynd yn ol GyrA ydw i). Ond os ca i ddefnyddio addewid, gora oll. Ydi 'bore oes' yn rhy ifanc i'w ddefnyddio am rywun yn ei 20au? Dwi'n hoff iawn o'r ymadrodd bore oes.
Anna
Addewid yr Ifanc neu Addewid Ifanc, gan chwarae ar y ffaith mai sôn am hen addewidion rydan ni fel arfer.BethanFrom: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">anna gruffyddSent: Thursday, June 03, 2010 11:55 AMTo: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">[log in to unmask]Subject: Re: llanc/glaslanc---------------------------------------------------------------------------------------------------Diolch, on i'n ama braidd - cyngerdd o'r enw The Promise of Youth sydd gen i ac ron i'n teimlo bod Gwyr Ifainc Addawol braidd yn glogyrnaidd a diddychmyg - fedar rhywun feddwl am rywbeth mwy bachog? Bore Oes Addawol tybed? Gweithia sgwennodd cyfansoddwyr pan oedden nhw tua 24/25 ydi cynnwys y cyngerdd. Diolch
Anna
2010/6/3 Nia Humphreys <[log in to unmask]>
Mi faswn i’n dweud deunaw oed.
Nia
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 03 June 2010 11:47
To: [log in to unmask]
Subject: llanc/glaslanc
Pa oed mae rhywun yn peidio a bod yn llanc neu'n laslanc? Ydi 24/25 yn rhy hen? Diolch
Anna2008-09 Beacon Award Winner / Enillydd Gwobr Beacon 2008-09
COLEG MENAI, FFORDD FRIDDOEDD, BANGOR, GWYNEDD, LL57 2TP.
Tel.01248370125 Fax.01248370052
Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ddogfen sydd ynghlwm yn gyfrinachol ac at sylw'r unigolyn y cyfeiriwyd y neges ato yn unig. Os digwydd i'r neges eich cyrraedd drwy gamgymeriad a fyddech gystal a chysylltu a'r person a anfonodd y neges a dileu'r deunydd oddi ar unrhyw gyfrifiadur ac ni ddylech gopio, dosbarthu na dangos y cynnwys i unrhyw un. Gall y neges gynnwys safbwyntiau personol nad ydynt yn safbwyntiau gan Goleg Menai, oni bai y nodwyd hynny'n bendant. Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am golled neu niwed a achosir o ganlyniad i firysau yn y meddalwedd.
This email and any attachments are confidential and intended for the named recipient only. If it has reached you by mistake please contact the sender and delete the material from any computer and you should not copy, distribute or show the content to anyone. The contents of the message may contain personal views which are not the views of Coleg Menai, unless specifically stated. We cannot accept any liability for any loss or damage sustained as a result of software viruses.
Text inserted by Panda GP 2010:
This message has NOT been classified as spam. If it is unsolicited mail (spam), click on the following link to reclassify it: It is spam!
---------------------------------------------------------------------------------------------------