Print

Print


Ie, roeddwn i wedi ystyried hynny, a dweud rhywbeth syml fel “Eisiau dysgu iaith newydd?” / “Awydd dysgu iaith newydd”?

 

Dwi’n cytuno mai “arnoch awydd”  yw’r ffordd orau o’i gyfieithu.

 

Diolch i’r ddwy ohonoch am eich sylwadau.  

 

Alison.

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Siân Roberts
Sent: 09 June 2010 14:11
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Have you always wanted to learn a language?

 

Mae arna i awydd mynd i weithdy Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru yr wythnos nesa ar Gyfeithu Deunydd Cyhoeddusrwydd.

Yn y blyrb:  "Bydd y drafodaeth yn cyffwrdd â chwestiynau megis: pa bryd y mae’n bwysicach cael cyfieithiad ‘cywir’, a pha bryd y byddai’n well ysgrifennu fersiwn arall yn Gymraeg."

Efallai nad yw'n bwysig cyfieithu'n union yn y fan hyn - nid y ffaith bod rhywun wedi bod eisiau dysgu iaith erioed sy'n bwysig ond eu bod yn awyddus i wneud hynny nawr. Ie?

Rhywbeth fel "Fyddech chi wrth eich bodd yn gallu siarad iaith arall?" neu rywbeth ?

 

Siân

 

 

 

 

On 9 Meh 2010, at 13:58, Alison Reed wrote:





Mae’n ymadrodd sy’n codi’n aml, ee “I’ve always wanted to be a hairdresser”.  Rwy’n cytuno,  ar lafar y byddwn i’n dweud “wastad eisiau bod” ond yn poeni braidd nad yw’n dderbyniol ar bapur. Prosbectws coleg sydd dan sylw yn yr achos hwn.

 

Alison.

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Glenys M Roberts
Sent: 09 June 2010 13:31
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Have you always wanted to learn a language?

 


 

Ar lafar, mae'n siŵr mai rhywbeth tebyg i - 'ydach chi wastad wedi bod eisiau dysgu iaith?'. Ond mae llawer yn dal i fynnu y dylid rhoi 'ar' gydag 'eisiau', 'awydd' etc. Dibynnu ar y cywair ddwedwn i - ond falle y byddai'n rhaid rhoi '(A) fu arnoch chi wastad awydd dysgu iaith?' Neu '(A) fu awydd dysgu iaith arnoch chi erioed?' - ond mae hynny'n amwys am ei fod hefyd yn golygu 'Have you ever wanted to learn a language?' 

 

Dewch â'ch cynigion slicach, bobol.

Glenys



--- On Wed, 9/6/10, Alison Reed <[log in to unmask]> wrote:


From: Alison Reed <[log in to unmask]>
Subject: Have you always wanted to learn a language?
To: [log in to unmask]
Date: Wednesday, 9 June, 2010, 9:33

I’w weld yn frawddeg syml, ond yn achosi pen tost i mi.  Unrhyw gynigion os gwelwch yn dda?