Gallech chi aralleirio Alison - 'Bu arnaf awydd trin gwallt erioed/er pan oeddwn yn fach' etc.
Pawb arall yn y Gynhadledd mae'n siŵr!
From: Alison Reed <[log in to unmask]> Subject: Re: Have you always wanted to learn a language? To: [log in to unmask] Date: Wednesday, 9 June, 2010, 13:58
Mae’n ymadrodd sy’n codi’n aml, ee “I’ve always wanted to be a hairdresser”. Rwy’n cytuno, ar lafar y byddwn i’n dweud “wastad eisiau bod” ond yn poeni braidd nad yw’n dderbyniol ar bapur. Prosbectws coleg sydd dan sylw yn yr achos hwn.
Alison.
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Glenys M Roberts Sent: 09 June 2010 13:31 To: [log in to unmask] Subject: Re: Have you always wanted to learn a language?
Ar lafar, mae'n siŵr mai rhywbeth tebyg i - 'ydach chi wastad wedi bod eisiau dysgu iaith?'. Ond mae llawer yn dal i fynnu y dylid rhoi 'ar' gydag 'eisiau', 'awydd' etc. Dibynnu ar y cywair ddwedwn i - ond falle y byddai'n rhaid rhoi '(A) fu arnoch chi wastad awydd dysgu iaith?' Neu '(A) fu awydd dysgu iaith arnoch chi erioed?' - ond mae hynny'n amwys am ei fod hefyd yn golygu 'Have you ever wanted to learn a language?'
Dewch â'ch cynigion slicach, bobol.
From: Alison Reed <[log in to unmask]> Subject: Have you always wanted to learn a language? To: [log in to unmask] Date: Wednesday, 9 June, 2010, 9:33
I’w weld yn frawddeg syml, ond yn achosi pen tost i mi. Unrhyw gynigion os gwelwch yn dda?
|
|