Print

Print


Helo Bet
Dim ond y "camau" oedd y "disposals" - reprimand, final warning, ASBO, curfew, dirwy etc’ 

At y "restorative" roedd y "gwneud iawn" yn cyfeirio.

Ar wefan y yjb o dan "Aims and principles of restorative justice" mae'r paragraff cyntaf yn sôn am gyd-drafod a chytuno rhwng y troseddwr a'r dioddefwr:

Restorative justice provides opportunities for those directly affected by an offence – victim, offender and members of the community – to communicate and agree how to deal with the offence and its consequences.

Ond wedyn, mae'n sôn am yr amcanion:

  • victim satisfaction – reducing the fear of the victim and ensuring they feel ‘paid back’ for the harm that has been done to them
  • engagement with the young person – to ensure that they are aware of the consequences of their actions, have the opportunity to make reparation and agree a plan for their restoration in the community
  • creation of community capital – increasing public confidence in the criminal justice system.
Mae hyn yn cynnwys - '...paid back...', '...make reparation...', a '...restoration in the community...' - sef gwahanol agweddau ar "adfer".  Mae'r troseddwyr ifanc yn talu nôl i'r dioddefwr ac yn cael ei adfer i'r gymuned.

Mae "Camau Adfer Pobl Ifanc" yn swnio lot mwy naturiol - ond dyw e ddim yn cynnwys y "Gorchmynion".

O diar!
Siân


On 22 Meh 2010, at 12:43, Eldred Bet wrote:

Sa i’n credu y byddwn i’n disgrifio ‘reprimand, final warning, ASBO, curfew, dirwy etc’ fel camau gwneud iawn, cosbau yw’r rhain mewn gwirionedd.  Ond rwy’n derbyn nad oedd ein cynnig ni’n gwneud fawr o synnwyr (cynnyrch prynhawn Gwener siŵr o fod!)

 

Beth am ‘Camau Adfer Pobl Ifanc’?

Bet

 

 

 

 

Bet Eldred

Uwch Gyfieithydd - Senior Translator

Uned Gyfieithu - Translation Unit

Heddlu Dyfed Powys Police

101 Est/Ext 6558

Mewnol/Internal 23175

<image001.jpg> 


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Carolyn
Anfonwyd/Sent: 22 Mehefin 2010 12:23
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: ATB: ATB: Youth Restorative Disposal Orders

 

Mae 'gwneud iawn' yn cyfleu 'restorative' i fi - ond mae'n aml yn anodd ei ddefnyddio'n dwt. Dw i'n meddwl bod 'camau' yn aml yn ddigon i gyfleu 'disposal' er bod elfen o 'gwblhau' yn rhan o'r syniad - sef 'ffordd o ddelio â rhywbeth' fel y dywed Siân.  Fydda i'n aml yn hepgor y 'disposal' ac yn rhoi 'gorchmynion gwneud iawn' am 'restorative orders'. Un peth arall sy'n broblem fawr yn y maes hwn yw'r 'youth'. I fi, mae 'ieuenctid' yn enw haniaethol sy'n disgrifio'r cyflwr/cyfnod o fod yn ifanc, ond erbyn hyn, mae'n cael ei ddefnyddio'n gyffredinol i gyfieithu 'youth' gan golygu 'pobl ifanc'. Mae'n handi iawn ei ddefnyddio felly a dw i wedi ildio erbyn hyn ond mae rhywbeth yn rhyfedd yn ei gylch hefyd.

 


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Siân Roberts
Anfonwyd/Sent: 22 Mehefin 2010 12:19
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: ATB: Youth Restorative Disposal Orders

 

Dydi'r Saesneg ddim yn glir iawn! 

 

Ai "gwaredu" yw ystyr "disposal" fan hyn?  Yn ôl http://www.yjb.gov.uk/en-gb/practitioners/CourtsAndOrders/Disposals/ - mae "disposals" yn golygu'r gwahanol gamau y gellir eu cymryd i ddelio â rhywun sydd wedi troseddu - e.e. reprimand, final warning, ASBO, curfew, dirwy etc

 

Dw i ddim yn siwr am "adferol" - na "restorative" chwaith o ran hynny!

Restorative justice provides opportunities for those directly affected by an offence – victim, offender and members of the community – to communicate and agree how to deal with the offence and its consequences.

 

"Gorchmynion ?? ieuenctid trwy gyd-drafod"  neu rywbeth ?

 

Siân

On 22 Meh 2010, at 11:54, Eldred Bet wrote:

 

Rydyn nid wedi defnyddio Gorchmynion Gwarediadau Adferol Ieuenctid.

 

Bet

 

Bet Eldred

Uwch Gyfieithydd - Senior Translator

Uned Gyfieithu - Translation Unit

Heddlu Dyfed Powys Police

101 Est/Ext 6558

Mewnol/Internal 23175

<image001.jpg> 


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Translation Unit
Anfonwyd/Sent: 22 Mehefin 2010 10:36
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Youth Restorative Disposal Orders

 

“These took the views of the victim into account, unlike cautions, and allowed offenders to apologise and make practical recompense to victims” yn hytrach na dwyn achos llys yn erbyn y troseddwyr.

 

Diolch ymlaen llaw.

 

Hwyl,

Llyr Evans