Clywch clywch! A minnau wedi bod yn gweithio nid yn unig ar fy mhen fy hun ond yn bell o bob man hefyd (Ynysoedd Heledd wedyn yr Eidal) fedra i ddim dechra deud y gwahaniaeth mae wedi'i neud i mi. Mi allai'r cyflogwr dan sylw hefyd feddwl - dew dyna i ni weithiwr tim da, byth a hefyd ar y cylch yn cynnig cymorth neu hyd yn oed jyst tea and sympathy (ne be haru'r hulpan ddwl na fasa hi wedi cael hyd i hwnnw yn y geiriadur) ... swings and roundabouts - heb benderfynu ydw i byth be i'w wneud efo'r cania etc, diolch i'r drefn, mae'r cwsmer dan sylw ar wylia am wsnos eto - ne ella'n groes, fasa rheitiach i mi benderfynu a dyna ddiwadd arni. Anna 2010/6/17 Siân Roberts <[log in to unmask]> > Hm! Gobeithio na fydd angen help arni hi ar hast!! > > O ddifri - mae W-T-C yn eithriadol o werthfawr i rywun fel fi sy'n gweithio > ar fy mhen fy hunan - hyd yn oed pan na fydd pobl yn cadw at yr union bwnc > dan sylw. Onid peth felly yw cymuned? > > Diolch i bawb am bob help! > > Siân > > > On 17 Meh 2010, at 15:36, Ann Corkett wrote: > > > > > > ‘Rwy’n siwr y gall rhywun chwarae ar y “toes” yn y neges ‘na. > > > > Yn ddiweddar, dywedodd rhywun na enwa i mohoni wrthyf, ‘tasai hi’n meddwl > am gyflogi cyfieithydd, byddai hi’n edrych ar ei gyfraniadau i W-T-C. > Meddyliais i ei bod hi’n meddwl am ddarganfod pa mor dwp/ddeallus oedd ei > gwestiynau/gynigion, ond ei phwynt hi oedd y gellid cael gwybod faint o > amser byddai’r darpar gyfieithydd yn ei dreulio’n mwydro ar y We yn lle > gweithio. Lwcus dy fod ti a finnau’n hunangyflogedig! > > > > Ar fy ffordd allan. > > > > Hwyl, > > > > Ann > ------------------------------ > > *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary > [mailto:[log in to unmask]<[log in to unmask]>] > *On Behalf Of *anna gruffydd > *Sent:* 17 June 2010 15:29 > *To:* [log in to unmask] > *Subject:* Re: bottles, cans and bags > > > > fath a tea buns neu teacakes felly? Rwan ta, tasa'r deisan na yn Gymraeg > fasa na wahaniaeth rhwng teisan goffi a theisen coffi? ta teisan goffi > fasa'r ddwy? ia, teisan goffi fasa'r ddwy te achos toes na'r un ohonyn nhw'n > perthyn i ryw Fistar Coffi. fath a siop frics a siop frics decini > > Anna > > 2010/6/17 Ann Corkett <[log in to unmask]> > > Cofiaf ffonio rhywun i ofyn a oedd hi wedi gadael y coffi allan o rysait am > “Coffee cake”. O na, doedd dim coffi i fod ynddi; teisen i’w bwyta **efo** > coffi oedd hi! > > Ann > ------------------------------ > > *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary > [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of *anna gruffydd > *Sent:* 17 June 2010 15:08 > > > *To:* [log in to unmask] > *Subject:* Re: bottles, cans and bags > > > > Ti yn llygad dy le Ann fach - ac maen nhw'n meddwl mai rhyw bytiau bach > dibwys ydi'r rhain, dim gwerth meddwl amdanyn nhw. Dwi'n cael fy nhemtio, yn > ogystal a deud 'dim petha technegol rhyfedd', 'dim bwyd a diod' ac yn sicr > dim byd sydd mewn na bag na photel na chan na thun na chwdyn na baryn na > dim, maen nhw'n ddigon anodd pan fyddan nhw ar blat, yn enwedig yn sgil > rhwysg ac ymffrost hurt bost pobol sy'n sgwennu bwydlenni heb fod yn eu > deall yn iawn - fath a galw cawl pen dafad yn gawl cennin am eu bod nhw wedi > digwydd clywed yr enw cawl cennin yn rhwla ac ella na does na ddim cenhinen > ar ei gyfyl o - fasa Maxim's yn Paris ddim yn deud eu bod yn cynnig te > newydd ei wneud yn na fasan? Dwi di cael llond bol, fel dan ni i gyd, ar > bobol sy'n methu sgwennu Saesneg - dwi newydd gynnig i gwsmer gywiro'r > Saesneg ar track changes wrth fynd ymlaen - rhywbeth y dylen nhw fod wedi'i > wneud yn y le cynta cyn ei anfon ata i. Thursday bloody Thursday. > > Anna > > 2010/6/17 Ann Corkett <[log in to unmask]> > > >di treulio mwy o amsar ar yr hen gania ma na rhaglen gyngerdd gyfa - dim > ond pum ne chwe llinell ydi'r cnafon > > ‘Twas ever thus! > > Ann > ------------------------------ > > *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary > [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of *anna gruffydd > *Sent:* 17 June 2010 14:25 > > > *To:* [log in to unmask] > *Subject:* Re: bottles, cans and bags > > > > Diolch - dwi'n dal fawr callach chwaith - fi fydd rhaid penderfynu yn y pen > draw mwn - dwi'n lecio 'llond....' ond mewn rhestr o betha i'w prynu mewn > siop/ar stondin dwi'm yn meddwl y basa 'llond can o...' yn tycio - mae'n > rhyw ledawgrymu bod yna ganiau eraill sydd yn ddim ond hannar llawn rywsut - > fath a sgwennwyr bwydlenni twp sy'n deud 'freshly brewed tea' - fel tasan ni > i fod yn ddiolchgar na doedd o ddim wedi stiwio ers oria. Daria, dwi di > treulio mwy o amsar ar yr hen gania ma na rhaglen gyngerdd gyfa - dim ond > pum ne chwe llinell ydi'r cnafon - ond ella bydd y drafodaeth o fudd rywbryd > eto. Yn y cyfamser, diolch yn fawr thinciw a cadwch eich blydi chips!! > > Anna > > 2010/6/17 Ann Corkett <[log in to unmask]> > > > > > > “caniad”, “bagiad” yw ffurfiau llafar gogleddol “can[i]aid”, “bag[i]aid” yn > yr iaith safonol. Gellid wrth gwrs ddweud “llond bag”, “llond can” ayb. > > > > Bruce > ------------------------------ > > *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary > [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of *Geraint > Lovgreen > *Sent:* 17 June 2010 10:12 > > > *To:* [log in to unmask] > *Subject:* Re: bottles, cans and bags > > > > Dwi'n meddwl bod geiriau fel "caniad", "bagiad" a "baryn" yn dafodieithol > iawn. > > > > "bar" fyswn i'n ddeud. > > > > Ac os mai'r terfyniad "-aid" sydd gennon ni yma, fel yn "potelaid", a > "gwydraid" - "canaid" a "bagaid" ddyla'r ffurfiau fod ynde? > > > > Geraint > > ----- Original Message ----- > > *From:* Siân Roberts <[log in to unmask]> > > *To:* [log in to unmask] > > *Sent:* Thursday, June 17, 2010 9:52 AM > > *Subject:* Re: bottles, cans and bags > > > > Beth am "baryn grawn a ffrwythau"? > > > > Deall dy gyfyng-gyngor yn iawn! > > > > Siân > > > > On 17 Meh 2010, at 09:41, anna gruffydd wrote: > > > > Gystal i mi roi'r cyd-destun dwi'n meddwl - petha i'w prynu mewn theatr yng > Nghasnewydd ydi'r rhain ac mae'r rhestr yn ymddangos mewn llyfryn bach sy'n > benodol yn son am ddigwyddiadau teulu. Does arna i ddim isio tramgwyddo > rheola'r iaith ond ar yr un pryd does arna i ddim isio i nwydda'r stondin > fach ma swnio fel gloddest yr arglwydd faer. Mae'n siwr mod i'n gwneud mor a > mynydd o'r peth, ond am fy mod i'n cloffi rhwng dau feddwl mae hynny. O diar > dwi di blino! > > Anna > > 2010/6/17 Melanie Davies <[log in to unmask]> > > Cwdyn o tsips fyddwn ni'n dweud ffordd hyn ond falle bod hynny ddim yn air > addas ym mhobman. > > > > > > *From:* anna gruffydd <[log in to unmask]> > > *Sent:* Thursday, June 17, 2010 12:57 AM > > *To:* [log in to unmask] > > *Subject:* Re: bottles, cans and bags > > > > Oce oce! diolch - on i'n ama na dyna be faswn i'n ei glwad! Wel be fedra > i'i ddeud am y blincin fruit cereal bar ma ta? O na fasa gynno fo enw brand > ond does gynno fo ddim > > Anna > > 2010/6/17 Ann Corkett <[log in to unmask]> > > Potelaid o win, caniad o gwrw, bagiad o jips sy’n naturiol i mi. Meddwl yn > Saesneg ydi “potel o win”, “can o gwrw” &c (ond pacad [o’r Saesneg] o gnau, > er hynny). Nid yw “bar” yn cynnwys dim byd. > > Bruce > > > > > “Potelaid o win” i minnau hefyd.. > > Ann > ------------------------------ > > *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary > [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of *anna gruffydd > *Sent:* 16 June 2010 20:43 > *To:* [log in to unmask] > *Subject:* bottles, cans and bags > > > > > Mae gen i restr o amryw dameidiau i aros pryd a diodydd etc. Dwi'n gwbod > mai efo'r terfyniad 'aid' y dylwn ddisgrifio llond rhywbeth o rywbeth, ond > tybed oes yna anghysondera ...? E.e. gwydraid o win y baswn i'n ei gynnig > ond mae'n swnio'n naturiol i mi son am botel o win; sachaid o flawd ond bag > o tships; can o gwrw, pacad o gnau yn swnio'n iawn i mi. Ydw i'n iawn ta > wedi drysu? Ella bod y petha mwy modern, y bag, y can etc yn iawn heb yr > 'aid'? Dwi ddim hyd yn oed yn gwbod os ydi'r negas yma'n ddealladwy. A be am > Fruit Cereal Bar? Ga i ddeud Bar? Bar o siocled faswn i'n ddeud dwi'n siwr, > nid talp na dim byd arall. Mae arna i isio i'r rhestr fod yn hawdd ei deall > i'r cwsmeriaid a dyna di'r peth pwysica dwi'n meddwl (diolch i'r drefn am > Mini Cheddars sy'n enw brand!) Diolch ymlaen llaw > > Anna > > > > > > > > > > > > > > >