Print

Print


Cofiaf ffonio rhywun i ofyn a oedd hi wedi gadael y coffi allan o rysait am “Coffee cake”.  O na, doedd dim coffi i fod ynddi; teisen i’w bwyta *efo* coffi oedd hi!

Ann


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 17 June 2010 15:08
To: [log in to unmask]
Subject: Re: bottles, cans and bags

 

Ti yn llygad dy le Ann fach - ac maen nhw'n meddwl mai rhyw bytiau bach dibwys ydi'r rhain, dim gwerth meddwl amdanyn nhw. Dwi'n cael fy nhemtio, yn ogystal a deud  'dim petha technegol rhyfedd', 'dim bwyd a diod' ac yn sicr dim byd sydd mewn na bag na photel na chan na thun na chwdyn na baryn na dim, maen nhw'n ddigon anodd pan fyddan nhw ar blat, yn enwedig yn sgil rhwysg ac ymffrost hurt bost pobol sy'n sgwennu bwydlenni heb fod yn eu deall yn iawn - fath a galw cawl pen dafad yn gawl cennin am eu bod nhw wedi digwydd clywed yr enw cawl cennin yn rhwla ac ella na does na ddim cenhinen ar ei gyfyl o - fasa Maxim's yn Paris ddim yn deud eu bod yn cynnig te newydd ei wneud yn na fasan? Dwi di cael llond bol, fel dan ni i gyd, ar bobol sy'n methu sgwennu Saesneg - dwi newydd gynnig i gwsmer gywiro'r Saesneg ar track changes wrth fynd ymlaen - rhywbeth y dylen nhw fod wedi'i wneud yn y le cynta cyn ei anfon ata i. Thursday bloody Thursday.

Anna

2010/6/17 Ann Corkett <[log in to unmask]>

>di treulio mwy o amsar ar yr hen gania ma na rhaglen gyngerdd gyfa - dim ond pum ne chwe llinell ydi'r cnafon

‘Twas ever thus!

Ann


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 17 June 2010 14:25


To: [log in to unmask]
Subject: Re: bottles, cans and bags

 

Diolch - dwi'n dal fawr callach chwaith - fi fydd rhaid penderfynu yn y pen draw mwn - dwi'n lecio 'llond....' ond mewn rhestr o betha i'w prynu mewn siop/ar stondin dwi'm yn meddwl y basa 'llond can o...' yn tycio - mae'n rhyw ledawgrymu bod yna ganiau eraill sydd yn ddim ond hannar llawn rywsut - fath a sgwennwyr bwydlenni twp sy'n deud 'freshly brewed tea' - fel tasan ni i fod yn ddiolchgar na doedd o ddim wedi stiwio ers oria. Daria, dwi di treulio mwy o amsar ar yr hen gania ma na rhaglen gyngerdd gyfa - dim ond pum ne chwe llinell ydi'r cnafon - ond ella bydd y drafodaeth o fudd rywbryd eto. Yn y cyfamser, diolch yn fawr thinciw a cadwch eich blydi chips!!

Anna

2010/6/17 Ann Corkett <[log in to unmask]>

 

 

“caniad”, “bagiad” yw ffurfiau llafar gogleddol “can[i]aid”, “bag[i]aid” yn yr iaith safonol. Gellid wrth gwrs ddweud “llond bag”, “llond can” ayb.

 

Bruce


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 17 June 2010 10:12


To: [log in to unmask]
Subject: Re: bottles, cans and bags

 

Dwi'n meddwl bod geiriau fel "caniad", "bagiad" a "baryn" yn dafodieithol iawn.

 

"bar" fyswn i'n ddeud.

 

Ac os mai'r terfyniad "-aid" sydd gennon ni yma, fel yn "potelaid", a "gwydraid" - "canaid" a "bagaid" ddyla'r ffurfiau fod ynde?

 

Geraint

----- Original Message -----

From: [log in to unmask]">Siān Roberts

Sent: Thursday, June 17, 2010 9:52 AM

Subject: Re: bottles, cans and bags

 

Beth am "baryn grawn a ffrwythau"?

 

Deall dy gyfyng-gyngor yn iawn!

 

Siān

 

On 17 Meh 2010, at 09:41, anna gruffydd wrote:

 

Gystal i mi roi'r cyd-destun dwi'n meddwl - petha i'w prynu mewn theatr yng Nghasnewydd ydi'r rhain ac mae'r rhestr yn ymddangos mewn llyfryn bach sy'n benodol yn son am ddigwyddiadau teulu. Does arna i ddim isio tramgwyddo rheola'r iaith ond ar yr un pryd does arna i ddim isio i nwydda'r stondin fach ma swnio fel gloddest yr arglwydd faer. Mae'n siwr mod i'n gwneud mor a mynydd o'r peth, ond am fy mod i'n cloffi rhwng dau feddwl mae hynny. O diar dwi di blino!

Anna

2010/6/17 Melanie Davies <[log in to unmask]>

Cwdyn o tsips fyddwn ni'n dweud ffordd hyn ond falle bod hynny ddim yn air addas ym mhobman.

 

 

From: [log in to unmask]">anna gruffydd

Sent: Thursday, June 17, 2010 12:57 AM

Subject: Re: bottles, cans and bags

 

Oce oce! diolch - on i'n ama na dyna be faswn i'n ei glwad! Wel be fedra i'i ddeud am y blincin fruit cereal bar ma ta? O na fasa gynno fo enw brand ond does gynno fo ddim

Anna

2010/6/17 Ann Corkett <[log in to unmask]>

Potelaid o win, caniad o gwrw, bagiad o jips sy’n naturiol i mi.  Meddwl yn Saesneg ydi “potel o win”, “can o gwrw” &c (ond pacad [o’r Saesneg] o gnau, er hynny).  Nid yw “bar” yn cynnwys dim byd.

Bruce


 

“Potelaid o win” i minnau hefyd..

Ann


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 16 June 2010 20:43
To: [log in to unmask]
Subject: bottles, cans and bags


 

Mae gen i restr o amryw dameidiau i aros pryd a diodydd etc. Dwi'n gwbod mai efo'r terfyniad 'aid' y dylwn ddisgrifio llond rhywbeth o rywbeth, ond tybed oes yna anghysondera ...? E.e. gwydraid o win y baswn i'n ei gynnig ond mae'n swnio'n naturiol i mi son am botel o win; sachaid o flawd ond bag o tships; can o gwrw, pacad o gnau yn swnio'n iawn i mi. Ydw i'n iawn ta wedi drysu? Ella bod y petha mwy modern, y bag, y can etc yn iawn heb yr 'aid'? Dwi ddim hyd yn oed yn gwbod os ydi'r negas yma'n ddealladwy. A be am Fruit Cereal Bar? Ga i ddeud Bar? Bar o siocled faswn i'n ddeud dwi'n siwr, nid talp na dim byd arall. Mae arna i isio i'r rhestr fod yn hawdd ei deall i'r cwsmeriaid a dyna di'r peth pwysica dwi'n meddwl (diolch i'r drefn am Mini Cheddars sy'n enw brand!) Diolch ymlaen llaw

Anna