----- Original Message -----From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Siân RobertsTo: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]Sent: Thursday, June 17, 2010 9:52 AMSubject: Re: bottles, cans and bagsBeth am "baryn grawn a ffrwythau"?Deall dy gyfyng-gyngor yn iawn!Siân
On 17 Meh 2010, at 09:41, anna gruffydd wrote:
Gystal i mi roi'r cyd-destun dwi'n meddwl - petha i'w prynu mewn theatr yng Nghasnewydd ydi'r rhain ac mae'r rhestr yn ymddangos mewn llyfryn bach sy'n benodol yn son am ddigwyddiadau teulu. Does arna i ddim isio tramgwyddo rheola'r iaith ond ar yr un pryd does arna i ddim isio i nwydda'r stondin fach ma swnio fel gloddest yr arglwydd faer. Mae'n siwr mod i'n gwneud mor a mynydd o'r peth, ond am fy mod i'n cloffi rhwng dau feddwl mae hynny. O diar dwi di blino!
Anna
2010/6/17 Melanie Davies <[log in to unmask]>
Cwdyn o tsips fyddwn ni'n dweud ffordd hyn ond falle bod hynny ddim yn air addas ym mhobman.From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]" target=_blank>anna gruffyddSent: Thursday, June 17, 2010 12:57 AMTo: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]" target=_blank>[log in to unmask]Subject: Re: bottles, cans and bagsOce oce! diolch - on i'n ama na dyna be faswn i'n ei glwad! Wel be fedra i'i ddeud am y blincin fruit cereal bar ma ta? O na fasa gynno fo enw brand ond does gynno fo ddim
Anna
2010/6/17 Ann Corkett <[log in to unmask]>
Potelaid o win, caniad o gwrw, bagiad o jips sy’n naturiol i mi. Meddwl yn Saesneg ydi “potel o win”, “can o gwrw” &c (ond pacad [o’r Saesneg] o gnau, er hynny). Nid yw “bar” yn cynnwys dim byd.
Bruce
“Potelaid o win” i minnau hefyd..
Ann
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 16 June 2010 20:43
To: [log in to unmask]
Subject: bottles, cans and bags
Mae gen i restr o amryw dameidiau i aros pryd a diodydd etc. Dwi'n gwbod mai efo'r terfyniad 'aid' y dylwn ddisgrifio llond rhywbeth o rywbeth, ond tybed oes yna anghysondera ...? E.e. gwydraid o win y baswn i'n ei gynnig ond mae'n swnio'n naturiol i mi son am botel o win; sachaid o flawd ond bag o tships; can o gwrw, pacad o gnau yn swnio'n iawn i mi. Ydw i'n iawn ta wedi drysu? Ella bod y petha mwy modern, y bag, y can etc yn iawn heb yr 'aid'? Dwi ddim hyd yn oed yn gwbod os ydi'r negas yma'n ddealladwy. A be am Fruit Cereal Bar? Ga i ddeud Bar? Bar o siocled faswn i'n ddeud dwi'n siwr, nid talp na dim byd arall. Mae arna i isio i'r rhestr fod yn hawdd ei deall i'r cwsmeriaid a dyna di'r peth pwysica dwi'n meddwl (diolch i'r drefn am Mini Cheddars sy'n enw brand!) Diolch ymlaen llaw
Anna