Print

Print


Dwi'n meddwl bod geiriau fel "caniad", "bagiad" a "baryn" yn dafodieithol iawn.

"bar" fyswn i'n ddeud.

Ac os mai'r terfyniad "-aid" sydd gennon ni yma, fel yn "potelaid", a "gwydraid" - "canaid" a "bagaid" ddyla'r ffurfiau fod ynde?

Geraint
  ----- Original Message ----- 
  From: Siân Roberts 
  To: [log in to unmask] 
  Sent: Thursday, June 17, 2010 9:52 AM
  Subject: Re: bottles, cans and bags


  Beth am "baryn grawn a ffrwythau"?


  Deall dy gyfyng-gyngor yn iawn!


  Siân


  On 17 Meh 2010, at 09:41, anna gruffydd wrote:


    Gystal i mi roi'r cyd-destun dwi'n meddwl - petha i'w prynu mewn theatr yng Nghasnewydd ydi'r rhain ac mae'r rhestr yn ymddangos mewn llyfryn bach sy'n benodol yn son am ddigwyddiadau teulu. Does arna i ddim isio tramgwyddo rheola'r iaith ond ar yr un pryd does arna i ddim isio i nwydda'r stondin fach ma swnio fel gloddest yr arglwydd faer. Mae'n siwr mod i'n gwneud mor a mynydd o'r peth, ond am fy mod i'n cloffi rhwng dau feddwl mae hynny. O diar dwi di blino!

    Anna


    2010/6/17 Melanie Davies <[log in to unmask]>

      Cwdyn o tsips fyddwn ni'n dweud ffordd hyn ond falle bod hynny ddim yn air addas ym mhobman.



      From: anna gruffydd 
      Sent: Thursday, June 17, 2010 12:57 AM
      To: [log in to unmask] 
      Subject: Re: bottles, cans and bags


      Oce oce! diolch - on i'n ama na dyna be faswn i'n ei glwad! Wel be fedra i'i ddeud am y blincin fruit cereal bar ma ta? O na fasa gynno fo enw brand ond does gynno fo ddim

      Anna


      2010/6/17 Ann Corkett <[log in to unmask]>

        Potelaid o win, caniad o gwrw, bagiad o jips sy’n naturiol i mi.  Meddwl yn Saesneg ydi “potel o win”, “can o gwrw” &c (ond pacad [o’r Saesneg] o gnau, er hynny).  Nid yw “bar” yn cynnwys dim byd.

        Bruce



        “Potelaid o win” i minnau hefyd..

        Ann


------------------------------------------------------------------------

        From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
        Sent: 16 June 2010 20:43
        To: [log in to unmask]
        Subject: bottles, cans and bags



        Mae gen i restr o amryw dameidiau i aros pryd a diodydd etc. Dwi'n gwbod mai efo'r terfyniad 'aid' y dylwn ddisgrifio llond rhywbeth o rywbeth, ond tybed oes yna anghysondera ...? E.e. gwydraid o win y baswn i'n ei gynnig ond mae'n swnio'n naturiol i mi son am botel o win; sachaid o flawd ond bag o tships; can o gwrw, pacad o gnau yn swnio'n iawn i mi. Ydw i'n iawn ta wedi drysu? Ella bod y petha mwy modern, y bag, y can etc yn iawn heb yr 'aid'? Dwi ddim hyd yn oed yn gwbod os ydi'r negas yma'n ddealladwy. A be am Fruit Cereal Bar? Ga i ddeud Bar? Bar o siocled faswn i'n ddeud dwi'n siwr, nid talp na dim byd arall. Mae arna i isio i'r rhestr fod yn hawdd ei deall i'r cwsmeriaid a dyna di'r peth pwysica dwi'n meddwl (diolch i'r drefn am Mini Cheddars sy'n enw brand!) Diolch ymlaen llaw

        Anna