Yr enw torfol am haid o frain yn Gymraeg yw 'branes' (cf. buches, iares fel yn Taliaris am ieir). Date: Tue, 11 May 2010 12:20:44 +0100 From: [log in to unmask] Subject: Re: a murder of crows To: [log in to unmask] Daw’r lluniau o lyfr newydd, “Of a Feather” gan Wasg Gregynog – a ‘tasai gen i bron dwy fil yn sbar mi fyddwn i’n prynu copi! Ann From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Siân Roberts Sent: 11 May 2010 12:05 To: [log in to unmask] Subject: Re: a murder of crows Bu gan yr Amgueddfa Genedlaethol arddangosfa o'r enw Adar o'r Unlliw a oedd yn cynnwys ysgythriadau pren a darnau ysgrifenedig wedi'u seilio ar enwau torfol gwahanol fathau o adar o A i Z. Yn honno, gadawyd yr enwau yn Saesneg - roedd yn cychwyn gydag Abandonment of Cuckoos ac yn cynnwys pethau fel Deceit of Lapwings, Exaltation of Larks, Murder of Crows, ac ymlaen i Zephyr of Long-tailed Titmice! Siân On 11 Mai 2010, at 11:56, Ann Corkett wrote: O gwych! Ann From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd Sent: 11 May 2010 11:52 To: [log in to unmask] Subject: Re: a murder of crows Enw llun mewn arddangosfa ydi o - mi ofynna i'r cwsmer cyn penderfynu dim - ella bod y peth mor haniaethol na does wbod yn y byd be ydi o - heb ei weld o! Dwn i mo'r ateb i'r un o dy ddau gwestiwn. Son am wneud petha o ran hwyl, ddoe sgwennais i bod Mozart wedi mynd yn gerddor ar ei liwt ei hun, dim ond pan on i'n gwirio y sylweddolais i'i fod yn anaddas at raglen cyngerdd clasurol - mi fasa'n dda gen i gael y cyfle i ddefnyddio'r joc rywbryd - ond maen siwr bod rhywun eisoes wedi gwneud Annes 2010/5/11 Ann Corkett <[log in to unmask]> ‘Doeddwn i ddim wedi sylweddoli mai chwilio am air *i’w ddefnyddio* oeddet, nid am dipyn o hwyl yn unig! Dim ond dau gwestiwn: (i) A oedd cynnig Paul yn ymadrodd sy’n bod eisoes, ynteu’n gynnig gwneud o ran hwyl? (ii) A ellid defnyddio “pentref o frain” am gasgliad o frain allan ar y cae, ynteu dim ond am frain ar gasgliad o nythau yn y coed (gellir – neu gellid – cael pentref o Gymry, ond nid yw casgliad o Gymry’n pentref). Ddrwg gen i am fod yn negyddol! Ann From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd Sent: 11 May 2010 08:23 To: [log in to unmask] Subject: a murder of crows Diolch yn fawr am yr atebion - diddorol iawn. Ddrwg gen i fod gyhyd yn ateb. Dal i gloffi rhwng 'pentre brain' a 'cadfaes o frain - lecio'r ddau. Annes _________________________________________________________________ http://clk.atdmt.com/UKM/go/197222280/direct/01/ We want to hear all your funny, exciting and crazy Hotmail stories. Tell us now