Dallt i'r dim - oes o orfod sillafu'r peth a chael fy ngalw'n anus. Gwaetha'r modd mi fasa'i newid yn swyddogol yn yr Eidal yn gofyn mwy o fiwrocratiaeth na diddymu'r Deg Gorchymyn!
Anna
Anna amdani felly!Pan o'n i'n fach yn Wrecsam o'n i wastad isio enw fel John Jones yn lle Geraint Lovgreen, ond dwi'n iawn rwan ;-)Geraint----- Original Message -----From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">anna gruffyddTo: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">[log in to unmask]Sent: Thursday, May 27, 2010 1:52 AMSubject: Re: enwDdim isio codi twrw am wn i - dwi'n difaru f'enaid na faswn i wedi mynnnu ei newid flynyddoedd yn ol yn lle cywtywio i fy rhieni - mi ddoth imi'n un fflyd heno am ryw reswm!
Anna
2010/5/26 Ann Corkett <[log in to unmask]>
Annwyl Anna,
Heblaw iddo feddwl “oen”, nad yw efallai’n addas iawn, ‘rwy’n cael “Annes” yn enw hyfryd, ond os mai felly ‘rwyt ti’n teimlo, pam yn y byd na ddywedaist ti o’r blaen?
Cofion cynnes,
Ann
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 26 May 2010 20:45
To: [log in to unmask]
Subject: enw
Maddeuwch i mi, annwyl gyfeillion, am eich poeni chi a rhywbeth dibwys ond mae o bwys i mi. Dwi'n casau fy enw gyda chas pur ac ers ugain mlynedd bellach (yn gyntaf yn Ynysoedd Heledd wedyn yn yr Eidal) ar wahan i ngwaith dwi'n byw ac yn bod o dan ye enw Anna. Dwi'n cael bod yr enw Annes yn mynd fwyfwy'n dan ar y nghroen a phrin y medra i'i sgwennu - ydi'n ddebyniol i mi lofnodi fy negeseuon ag Anna? Hyd y gwla i does na neb arall efo'r un enw yn y cylch felly ddylia fo ddim peri dryswch. Ddrwg gin i. Diolch. Nos dawch
Anna