Mae 'dongle' yn gyfarwydd iawn i'r rhai ohonom sy'n defnyddio cof cyfieithu DVX (DejaVu) - dyna'r 'allwedd' neu'r 'goriad' i'w gael i weithio. Mae pencadlys y cwmni yn Sbaen, ac mi ofynnais iddynt rywdro beth oedd y gair Sbaeneg am 'dongle'. Yr ateb ges i oedd 'se suele usar "mochila"' - sef bag cefn. Peth rhyfedd ydy iaith! Wnes innau erioed ei alw'n ddim byd ond 'dongl'. Ydan ni'n dechrau colli ein dychymyg fel Cymry? Glenys --- On Tue, 25/5/10, Geraint Jones <[log in to unmask]> wrote: From: Geraint Jones <[log in to unmask]> Subject: Re: dongle To: [log in to unmask] Date: Tuesday, 25 May, 2010, 10:04 Siap a maint y peirin, a'r modd y mae'n mynd i dwll mewn offer, sy'n ei wneud yn dongl, nid y cynnwys na'r effaith. Plwg heb wifren ydy o, a dydy'r gair yn golygu fawr mwy na "pethma" i neb oni bod dongl yn cael ei ddenuddio i wneud rhywbeth penodol. Mae'r gair yn dyddio gychwyn yr 80au, a'r pryd hynny nid oedd dongl ond yn ddefnyddiol i gadw'r ychydig iwan o gynnwys fyddai'n ofynnol i ddefnyddio fel trwydded i feddalwedd o rhyw fath. I nghenhedlaeth i dyna oedd dongl, ac mae hi braidd dal yn od clywed to iau yn atgyfodi'r gair i gyfeirio at gofell-mewn-bawd neu offer ffon neu band llydan o'r un siap a maint.