Print

Print


‘Doeddwn i ddim wedi sylweddoli mai chwilio am air *i’w ddefnyddio* oeddet, nid am dipyn o hwyl yn unig!

Dim ond dau gwestiwn:

(i)  A oedd cynnig Paul yn ymadrodd sy’n bod eisoes, ynteu’n gynnig gwneud o ran hwyl? 

(ii) A ellid defnyddio “pentref o frain” am gasgliad o frain allan ar y cae, ynteu dim ond am frain ar gasgliad o nythau yn y coed (gellir – neu gellid – cael pentref o Gymry, ond nid yw casgliad o Gymry’n pentref).

Ddrwg gen i am fod yn negyddol!

Ann


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 11 May 2010 08:23
To: [log in to unmask]
Subject: a murder of crows

 

Diolch yn fawr am yr atebion - diddorol iawn. Ddrwg gen i fod gyhyd yn ateb. Dal i gloffi rhwng 'pentre brain' a 'cadfaes o frain - lecio'r ddau.

Annes