Ym
myd addysg.
Dwi
wedi methu dod o hyd i ddiffiniad o’r gair yn y cyd-destun hwn, ond dyma
enghraifft, gyda’r Gymraeg gyfatebol, o wefan Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
“HE in FE courses in Wales are mainly
funded through franchise arrangements. We provide funding to the HEI and
students are registered at the HEI, although they study at the partner FE
college. The HEI provides support and quality assurance for the course.”
“Caiff
cyrsiau AU mewn AB yng Nghymru eu cyllido’n bennaf drwy drefniadau
ffranseis. Rhoddwn gyllid i’r SAU a chofrestrir y myfyrwyr yn y SAU, er
eu bod yn astudio yn y coleg AB yn y bartneriaeth. Y SAU sy’n darparu
cymorth a sicrwydd ansawdd ar gyfer y cwrs.”
O roi
‘ffranseis’ ac ‘addysg’ yn Google, ceir 129 o
enghreifftiau, felly dwi’n cymryd bod yr enw, o leiaf, wedi cael ei
dderbyn. Ond berf sydd yn y frawddeg sydd gen i.
“Its
provision is franchised to other colleges in Wales and England.”
Cyflenwir
ei ddarpariaeth trwy drefniant ffranseis mewn colegau eraill yng Nghymru a Lloegr?
Claire
Mae
Pennawd Cyf yn gwmni cyfyngedig wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan y
rhif cofrestru 4276774, a chyfeiriad y swyddfa gofrestredig yw 53 Heol yr
Orsaf, Ystum Taf, Caerdydd, CF14 2FB.
Pennawd
Cyf is a limited company registered in England and Wales under the number
4276774, and the address of the registered office is 53 Station Road, Llandaff
North, Cardiff, CF14 2FB.