Diolch am eich help, bawb.

 

Plisman plant roddes i yn y pen draw, ond mae’n dda gwybod am yr enwau lleol on’d yw hi?

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Geraint Lewis
Sent: 08 Ebrill 2010 14:58
To: [log in to unmask]
Subject: Re: whipper-in

 

Richard Williams oedd enw'r gw^r a^'r ddyletswydd hon yn Ynys-y-bw^l slawer dydd, a adnabuwyd fel 'Dic Whipadi^n' - yn weddol agos i'r Saesneg ond yn ymgorffori hefyd ei floedd fygythiol. 
 
> Date: Thu, 8 Apr 2010 11:51:18 +0100
> From: [log in to unmask]
> Subject: Re: whipper-in
> To: [log in to unmask]
>
> Mi *roedd* 'na long - HMS Clio - ar gyfer plant drwg ar angor yn y Fenai:
> http://www.prosiectmenai.co.uk/hmsclio.php
>
> Ann a Bruce
>
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Meinir Pierce
> Jones
> Sent: 08 April 2010 11:34
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: whipper-in
>
> Yn y parthau yma (o gwmpas Llyn ac Eifionydd) yr enw arno oedd 'dyn llong
> fawr' . Roedd y llong honno (a yw hyn yn deillio ddyddiau yn press gang?) i
> fod wedi ei hangori yng nghyffiniau Caernarfon, dwi'n credu.
>
> Gobeithio fod hyn o help. Ella y bydd gan rywun arall fwy o fanylion.
>
> Meinir
>
> ----- Original Message -----
> From: "David Bullock" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Thursday, April 08, 2010 11:25 AM
> Subject: whipper-in
>
>
> Mae'n rhaid bod enw (neu enwau) Cymraeg ar yr hen swyddog fyddai'n arfer
> chwilio am blant bach drwg i fynd â nhw i'r ysgol. Oes e?


Get a free e-mail account with Hotmail. Sign-up now.

No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 9.0.801 / Virus Database: 271.1.1/2797 - Release Date: 04/07/10 19:32:00