Yr hyn sydd dan sylw, am wn i, yw'r gwastraff y mae Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol yn gyfrifol am ei waredu, ac os felly a fyddai modd defnyddio 'gwastraff sirol/bwrdeistrefol' pan fo angen term technegol yn ogystal â defnyddio 'gwastraff cyffredinol; gwastraff tai / cartrefi ; neu wastraff lleol', fel yr awgrymwyd eisoes, yn ôl y cywair. Hwyl, Llyr Evans ________________________________ Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Siân Roberts Anfonwyd/Sent: 27 April 2010 11:49 At/To: [log in to unmask] Pwnc/Subject: Re: municipal waste Diolch i bawb am gyfrannu. Ydi "sbwriel/gwastraff cyffredinol" yn mynd yn rhy bell? Siân On 27 Ebrill 2010, at 10:58, Geraint Lovgreen wrote: Gwastraff lleol? ----- Original Message ----- From: Sioned Graham-Cameron <mailto:[log in to unmask]> To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, April 27, 2010 10:13 AM Subject: Re: municipal waste Rhaid cyfaddef mai "dinesig" rydw i wedi bod yn ei ddefnyddio (heb feddwl yn ormodol am yr ystyr!) felly mae'r drafodaeth hon yn ddiddorol. Gwastraff ardal?? Rhy amwys, mae'n debyg ... Sioned On 27 Apr 2010, at 10:02, Claire Richards wrote: Dyma ystyr 'municipal', yn ôl Geiriadur Rhydychen: That relates to the function of the local or corporate government of a city, town, or district. Yr hyn rydyn ni'n sôn amdano yw gwastraff y mae'r cyngor lleol yn ei gasglu neu ei drin. Sut mae cyfleu hynny'n gryno? Gwastraff cynghorol? :-P Claire From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf OfGeraint Lovgreen Sent: 27 April 2010 09:49 To: [log in to unmask] Subject: Re: municipal waste Ond fel y dywedodd Siân, sut allwch chi gael gwastraff trefol o ardaloedd gwledig? Mae angen term gwell.